Job 34
34
Ail ymateb Elihw: mae Duw yn gyfiawn
1Yna dwedodd Elihw:
2“Gwrandwch be dw i’n ddweud, chi ddynion doeth;
dych chi’n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud.
3Mae’r glust yn profi geiriau
fel mae’r geg yn blasu bwyd.
4Gadewch i ni ystyried beth sy’n wir;
a phenderfynu rhyngon beth sy’n iawn.
5Mae Job wedi dweud, ‘Dw i’n ddieuog;
dydy Duw ddim wedi bod yn deg â mi.
6Fi sy’n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd?
Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf,
er fy mod heb droseddu.’
7Oes rhywun tebyg i Job?
Mae’n dangos dirmyg fel yfed dŵr!
8Mae’n cadw cwmni cnafon
ac yn ymddwyn fel pobl ddrwg!
9Achos mae wedi dweud, ‘Does dim pwynt
byw i blesio Duw.’
10Felly, gwrandwch, chi ddynion deallus,
Fyddai Duw byth yn gwneud drwg;
a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le!
11Mae e’n talu i bobl am yr hyn maen nhw’n ei wneud,
mae pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu!
12Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg;
dydy’r Un sy’n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder.
13Pwy roddodd y ddaear yn ei ofal?
Pwy roddodd hawl iddo roi trefn ar y byd?
14Petai’n dewis, gallai gymryd
ei ysbryd a’i anadl yn ôl,
15a byddai pob creadur byw yn marw,
a’r ddynoliaeth yn mynd yn ôl i’r pridd.
16Gwranda, os wyt ti’n ddyn deallus;
gwrando’n astud ar beth dw i’n ddweud.
17Ydy rhywun sy’n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu?
Wyt ti’n mynd i gondemnio’r Un Grymus a Chyfiawn
18sy’n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’
ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’?
19Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion,
nac yn ffafrio’r cyfoethog ar draul y tlawd;
am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd!
20Maen nhw’n marw yn sydyn yng nghanol y nos;
mae’r bobl bwysig yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu;
mae’r pwerus yn cael eu symud o’r ffordd yn hawdd.
21Mae e’n cadw golwg ar beth maen nhw’n ei wneud;
mae’n gwybod am bob symudiad.
22Does dim tywyllwch na chwmwl
lle gall pobl ddrwg guddio.
23Nid lle pobl ydy gosod amser
i ddod o flaen Duw i gael eu barnu!
24Mae’n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad,
ac yn gosod eraill i gymryd eu lle.
25Am ei fod yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud,
mae’n eu dymchwel dros nos, a’u dryllio.
26Mae’n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg,
ac yn gwneud hynny o flaen pawb,
27am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo,
a gwrthod cymryd sylw o’i ffyrdd.
28Maen nhw wedi achosi i’r tlodion alw arno,
a gwneud iddo wrando ar gri’r anghenus.
29Os ydy Duw’n cadw’n dawel, pwy sydd i’w feirniadu?
Os ydy e’n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo?
Ond mae e’n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth,
30rhag i rywun annuwiol deyrnasu
a gosod maglau i’r bobl.
31Ond os dywed rhywun wrth Dduw,
‘Dw i’n euog, a wna i ddim troseddu eto.
32Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld.
Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’
33Wyt ti’n credu y dylai Duw dalu’n ôl iddo,
gan dy fod yn gwrthod gwrando?
Ti sydd i ddewis, nid fi;
gad i ni glywed beth sydd gen ti i’w ddweud.
34Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i
– unrhyw ddyn doeth sy’n gwrando arna i –
35‘Mae Job wedi dweud pethau dwl;
dydy ei eiriau’n gwneud dim sens.’
36Dylai gael ei gosbi i’r eithaf
am siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad.
37Mae e wedi gwneud mwy na phechu –
mae e wedi gwrthryfela a gwawdio Duw yn ein plith ni,
a chyhuddo Duw’n ddi-stop.”
اکنون انتخاب شده:
Job 34: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023