Job 40

40
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Job:
2“Ydy’r un sy’n dadlau gyda’r Hollalluog am ddal i’w gywiro?
Beth am i ti sy’n beirniadu Duw roi ateb i mi!”
3A dyma Job yn ateb:
4“Mae’n wir, dw i’n neb. Beth alla i ddweud?
Dw i’n mynd i gadw’n dawel.
5Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto.
Dw i am ddweud dim mwy.”
6Yna dyma’r ARGLWYDD yn ateb Job o’r storm ac yn dweud:
7“Torcha dy lewys fel dyn!
Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb.
8Wyt ti’n gwadu fy mod i’n Dduw cyfiawn?
Wyt ti’n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy’n iawn?
9Wyt ti mor gryf ag ydw i?
Ydy dy lais di’n gallu taranu fel fy llais i?
10Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi.
Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.
11Dangos i bawb mor ddig wyt ti;
dos ar ôl y bobl falch, a’u rhoi nhw yn eu lle.
12Dos ar ôl y bobl falch, a’u cywilyddio nhw;
sathra’r rhai drwg yn y fan a’r lle!
13Cladda nhw yn y llwch,
a’u cloi nhw yn y bedd.
14Gwna i gyfaddef wedyn
dy fod ti’n ddigon cryf i achub dy hun!
15Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti;
mae e’n bwyta glaswellt fel ych.
16Edrych mor gryf ydy ei gluniau,
ac ar gryfder cyhyrau ei fol.
17Mae’n codi ei gynffon fel coeden dal;
mae gewynnau ei gluniau wedi’u gweu i’w gilydd.
18Mae ei esgyrn fel pibellau pres,
a’i goesau fel barrau haearn.
19Dyma’r creadur cryfaf a greodd Duw;
dim ond ei Grëwr all dynnu’r cleddyf a’i ladd.
20Y bryniau sy’n rhoi bwyd iddo,
lle mae’r holl anifeiliaid gwyllt eraill yn chwarae.
21Mae’n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog,
o’r golwg yng nghanol brwyn y gors.
22Mae’r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod,
a’r coed helyg sydd o’i gwmpas ger y nant.
23Dydy e ddim yn dychryn pan mae’r afon wedi chwyddo;
mae’n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto.
24All unrhyw un ei ddal tra mae’n gwylio,
neu wthio bachyn drwy ei drwyn?

اکنون انتخاب شده:

Job 40: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید