Job 7
7
Job yn cwyno fod bywyd yn galed
1Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed?
Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog –
2fel caethwas yn dyheu am gysgod,
neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.
3Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas,
a nosweithiau diddiwedd o dristwch.
4Pan dw i’n gorwedd i lawr, dw i’n meddwl,
‘Pryd dw i’n mynd i fedru codi?’
Mae’r nos yn llusgo’n araf,
a dw i’n troi a throsi nes iddi wawrio.
5Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd;
mae’r croen wedi cracio ac yn casglu.
6Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd,
ac yn dod i ben mewn anobaith.
7O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd!
Wna i ddim profi pleser byth eto.
8Fydd y llygaid sy’n edrych arna i’n fy ngweld i ddim mwy;
bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.
9Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu,
dydy’r un sy’n mynd i’r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;
10fydd e byth yn mynd adre eto;
a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.
11Felly, dw i ddim am gadw’n dawel!
Dw i’n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl;
dw i’n teimlo’n chwerw, a dw i’n mynd i gwyno.
12Ai’r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd,#7:12 môr … anghenfil y dyfroedd Mae “anghenfil y dyfroedd” yn cyfieithu’r gair Hebraeg Tannin, oedd yn anghenfil tebyg i Lefiathan (3:8), Rahab (9:13), a Behemoth (40:15). Yn ôl 38:8-11, mae Duw yn cadw’r môr yn gaeth drwy osod ffiniau iddo.
i ti orfod fy nghadw yn gaeth?
13Pan dw i’n meddwl, ‘Bydd mynd i’r gwely’n gysur,
a gorffwys yn gwneud i mi deimlo’n well,’
14ti’n fy nychryn â breuddwydion,
ac yn codi braw â hunllefau.
15Byddai’n well gen i gael fy stranglo;
mae marwolaeth yn well na bodolaeth.
16Dw i wedi cael llond bol,
does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.
Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau’n mynd heibio fel mwg.
17Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano,
a rhoi cymaint o sylw iddo?
18Ti’n ei archwilio bob bore,
ac yn ei brofi bob munud.
19Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd?
Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn!
20Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi’i wneud i ti,
ti Wyliwr pobl?
Pam dewis fi yn darged?
Ydw i wedi troi’n gymaint o faich i ti?
21Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu,
a chael gwared â’m pechod?
Achos bydda i’n gorwedd yn farw cyn pen dim;
byddi’n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.”
اکنون انتخاب شده:
Job 7: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023