Josua 19

19
Y tir gafodd llwyth Simeon
1Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda.
2Roedd eu tir nhw yn cynnwys Beersheba,#19:2 Beersheba Hebraeg yn ychwanegu “Sheba.” Ond byddai hyn yn gwneud 14, sydd un yn fwy na’r crynodeb yn adn. 6 (cf. 1 Cronicl 4:28). Molada, 3Chatsar-shwal, Bala, Etsem, 4Eltolad, Bethwl, Horma, 5Siclag, Beth-marcaboth, Chatsar-swsa, 6Beth-lebaoth, a Sharwchen – un deg tair o drefi, a’r pentrefi o’u cwmpas.
7Ain, Rimmon, Ether, ac Ashan – pedair o drefi, a’r pentrefi o’u cwmpas. 8Hefyd y pentrefi oedd o’u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef).
Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon. 9Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda.
Y tir gafodd llwyth Sabulon
10Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran.
Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain. 11Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Iocneam. 12O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffîa. 13Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon, cyn troi i gyfeiriad Nea. 14Wedyn roedd yn mynd rownd i’r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél.
15Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idalâ, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a’r pentrefi o’u cwmpas.
16Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas.
Y tir gafodd llwyth Issachar
17Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.
18Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem, 19Chaffaraïm, Shion, Anacharath, 20Rabbith, Cishon, Ebes, 21Remeth, En-gannîm, En-hada, a Beth-patsets. 22Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a’r pentrefi o’u cwmpas.
23Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas.
Y tir gafodd llwyth Asher
24Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran.
25Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Chelcath, Chali, Beten, Achsaff, 26Alammelech, Amad, a Mishal.
Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath. 27Wedyn roedd yn troi i’r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i’r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd. 28Yna i Ebron, Rechob, Chammôn, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr. 29-30Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a’r pentrefi o’u cwmpas, gan gynnwys Machalab,#19:29-30 Machalab felly LXX; Hebraeg, Mechefel. Achsib, Acco,#19:29-30 Acco felly LXX; Hebraeg, Wmma. Affec, a Rechob.
31Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas.
Y tir gafodd llwyth Nafftali
32Teuluoedd llwyth Nafftali gafodd y chweched ran.
33Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a’r dderwen yn Tsa-ananîm, yna’n mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth afon Iorddonen. 34Wedyn roedd yn troi i’r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i’r de, llwyth Asher i’r gorllewin, a Jwda wrth afon Iorddonen yn y dwyrain.
35Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth, 36Adama, Rama, Chatsor, 37Cedesh, Edrei, En-chatsor, 38Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a’r pentrefi o’u cwmpas.
39Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas.
Y tir gafodd llwyth Dan
40Teuluoedd llwyth Dan gafodd y seithfed ran.
41Roedd eu tir nhw’n cynnwys Sora, Eshtaol, Ir-shemesh, 42Shaalabin, Aialon, Ithla, 43Elon, Timna, Ecron, 44Eltece, Gibbethon, Baalath, 45Iehwd, Bene-berac, Gath-rimmon, 46Me-iarcon, a Raccon, gan gynnwys y tir o flaen Jopa.
47(Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly aethon nhw i’r gogledd ac ymosod ar Laish.#19:47 Hebraeg Leshem, sillafiad gwahanol o Laish (cf. Barnwyr 18:1-31). Dyma nhw’n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw’r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.)
48Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas.
Y tir gafodd Josua
49Ar ôl rhannu’r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn. 50Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e’n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno.
51Dyna sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu’r tir.

اکنون انتخاب شده:

Josua 19: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید