Nehemeia 12

12
Rhestr o offeiriaid a Lefiaid
1Dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa:#Esra 2:1-2
Offeiriaid:
Seraia, Jeremeia, Esra,
2Amareia, Malŵch, Chattwsh,
3Shechaneia, Rechwm, Meremoth,
4Ido, Gintoi, Abeia,
5Miamin, Maadia, Bilga
6Shemaia, Ioiarîf, Idaïa,
7Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa.
(Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a’u cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.)
Lefiaid:
8Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl.
9Bacbwceia ac Wnni a’u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau.
Disgynyddion Ieshŵa
10Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacîm, Ioiacîm yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada, 11Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa.
Arweinwyr claniau’r offeiriaid
12-21Dyma’r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad:
Offeiriad Clan
Meraia – o glan Seraia
Chananeia – o glan Jeremeia
Meshwlam – o glan Esra
Iehochanan – o glan Amareia
Jonathan – o glan Malŵch
Joseff – o glan Shefaneia
Adna – o glan Charîm
Chelcai – o glan Meraioth
Sechareia – o glan Ido
Meshwlam – o glan Ginnethon
Sichri – o glan Abeia
#12:17 Mae’r enw ar goll yn y rhestr Hebraeg. – o glan Miniamîn
Piltai – o glan Moadeia
Shammwa – o glan Bilga
Jonathan – o glan Shemaia
Matenai – o glan Ioiarîf
Wssi – o glan Idaïa
Calai – o glan Salw
Eber – o glan Amoc
Chashafeia – o glan Chilceia
Nethanel – o glan Idaïa
Cofnod o glaniau yr offeiriaid a’r Lefiaid
22Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia). 23Roedd cofrestr o’r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi’i gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.
24Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Ieshŵa, Binnŵi,#12:24 fel adn. 8. Hebraeg, “fab”. a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw. (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.)
25Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i’r stordai wrth y giatiau. 26Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacîm (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra’r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith.
Cysegru Waliau Jerwsalem
27Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma’r Lefiaid o bobman yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau. 28Roedd y cantorion wedi’u casglu hefyd, o’r ardal o gwmpas Jerwsalem a phentrefi Netoffa, 29Beth-gilgal, a’r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw’u hunain o gwmpas Jerwsalem.)
30Pan oedd yr offeiriaid a’r Lefiaid wedi mynd drwy’r ddefod o buro’u hunain, dyma nhw’n cysegru’r bobl, y giatiau, a’r wal.
31Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a chael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel. 32Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda. 33Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam, 34Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia – 35offeiriaid gydag utgyrn. Yna’n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff) 36a’i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda’r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi’u dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma.) 37Dyma nhw’n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i’r dwyrain.
38Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i’r cyfeiriad arall. Dyma fi’n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan, 39dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr.
40Wedyn, dyma’r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a’r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi, 41a’r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia. 42Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma’r corau yn canu dan arweiniad Israchïa. 43Roedd yn ddiwrnod o ddathlu, a chafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a’r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i’w glywed o bell.
Penodi dynion i gasglu’r cyfraniadau
44Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau’r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a’r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau’r bobl i’r offeiriaid a’r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o’r offeiriaid a’r Lefiaid oedd yn gwasanaethu. 45Nhw, gyda’r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau’r puro, fel gwnaeth y Brenin Dafydd a’i fab Solomon orchymyn. 46Ers pan oedd y Brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a’r caneuon o fawl a diolch i Dduw. 47Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i’r cantorion a’r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i’r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i’r offeiriaid, disgynyddion Aaron.

اکنون انتخاب شده:

Nehemeia 12: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید