Diarhebion 24

24
1Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg,
na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw.
2Dŷn nhw’n meddwl am ddim byd ond trais
a sut i wneud drwg i bobl eraill.
3Mae’n cymryd gallu i adeiladu tŷ,
a deall i osod seiliau cadarn iddo.
4Mae angen gwybodaeth i lenwi’r ystafelloedd
gyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd.
5Mae person doeth yn gryf,
a pherson deallus yn ddylanwadol.
6Mae angen strategaeth i ymladd brwydr,
a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth.
7Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;
does ganddo ddim i’w ddweud pan mae’r arweinwyr yn cyfarfod.
8Mae’r sawl sy’n cynllunio i wneud drwg
yn cael yr enw o fod yn gyfrwys.
9Mae castiau’r ffŵl yn bechod,
ac mae’n gas gan bobl berson sy’n gwawdio.
10Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau,
mae gen ti angen mwy o nerth.
11Achub y rhai sy’n cael eu llusgo i ffwrdd i’w lladd!
Bydd barod i helpu’r rhai sy’n baglu i’r bedd.
12Os byddi di’n dweud, “Ond doedden ni’n gwybod dim am y peth,”
cofia fod yr Un sy’n pwyso’r galon yn gweld y gwir!
Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e’n gwybod;
a bydd pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu.
13Fy mab, bwyta fêl – mae’n dda i ti –
ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg.
14A’r un modd mae doethineb yn dda i ti.
Os wyt ti’n ddoeth, byddi’n iawn yn y diwedd,
a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
15Paid llechu fel lleidr tu allan i gartref dyn da,
a phaid torri i mewn i’w dŷ.
16Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro,
ond byddan nhw’n codi ar eu traed;
tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.
17Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio;
paid bod yn falch os ydy e’n cael ei fwrw i lawr,
18rhag i’r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti;
wedyn bydd e’n arbed y gelyn rhag y gosb.
19Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;
paid bod yn genfigennus ohonyn nhw –
20does dim dyfodol iddyn nhw.
Mae’r person drwg fel lamp sy’n diffodd.
21Fy mab, dylet ti barchu’r ARGLWYDD a’r brenin,
a pheidio cadw cwmni’r rhai sy’n gwrthryfela.
22Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw;
pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?
Casgliad o ddywediadau doeth
23Dyma fwy o eiriau’r doethion:
Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da.
24Bydd barnwr sy’n gollwng yr euog yn rhydd
yn cael ei felltithio gan bobl,
a’i gondemnio gan wledydd;
25ond bydd bywyd yn braf i’r un sy’n barnu’n deg;
bydd e’n cael ei fendithio’n fawr.
26Mae rhoi ateb gonest
fel cusan ar y gwefusau.
27Rho drefn ar dy waith tu allan,
a chael y caeau’n barod i’w plannu,
ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ.
28Paid rhoi tystiolaeth yn erbyn rhywun heb achos da,
a phaid camarwain pobl.
29Paid dweud, “Dw i’n mynd i dalu’r pwyth yn ôl!
Bydda i’n dial arno am beth wnaeth e.”
30Rôn i’n pasio heibio cae y dyn diog,
a gwinllan un sydd heb sens.
31Roedd drain wedi tyfu drosto,
a chwyn ym mhobman,
a’r wal gerrig o’i gwmpas wedi syrthio.
32Wrth edrych a meddwl am y peth,
roedd beth welais i’n dysgu gwers i mi:
33“Ychydig bach mwy o gwsg,
pum munud arall!
Swatio’n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”
34Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;
bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog.

اکنون انتخاب شده:

Diarhebion 24: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید