Salm 114
114
Cân y Pasg
1Pan aeth pobl Israel allan o’r Aifft –
pan adawodd teulu Jacob y wlad
lle roedden nhw’n siarad iaith estron –
2daeth Jwda yn dir cysegredig,
ac Israel yn deyrnas iddo.
3Dyma’r Môr Coch#114:3 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”. yn eu gweld nhw’n dod
ac yn symud o’r ffordd.
Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl.
4Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod,
a’r bryniau yn prancio fel ŵyn.
5Beth wnaeth i ti symud o’r ffordd, fôr?
Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen?
6Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd?
Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau?
7Cryna, ddaear, am fod yr ARGLWYDD yn dod!
Mae Duw Jacob ar ei ffordd!
8Y Duw wnaeth droi’r graig yn bwll o ddŵr.
Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint!
اکنون انتخاب شده:
Salm 114: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023