Salm 120
120
Gweddi am help
Cân yr orymdaith.
1Yn fy argyfwng dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD
ac atebodd fi!
2“O ARGLWYDD, achub fi rhag gwefusau celwyddog,
a thafodau twyllodrus!”
3Dyma gei di ganddo
– ie, dyma fydd dy gosb –
ti, dafod twyllodrus:
4saethau miniog y milwyr
wedi’u llunio ar dân golosg!
5Dw i wedi bod mor ddigalon,
yn gorfod byw dros dro yn Meshech,
ac aros yng nghanol pebyll Cedar.#120:5 Meshech … Cedar Meshech: gwlad i’r de o’r Môr Du; Cedar: llwyth o bobl oedd yn byw yn yr anialwch i’r de-ddwyrain o Israel.
6Dw i wedi cael llond bol ar fyw
yng nghanol pobl sy’n casáu heddwch.
7Dw i’n siarad am heddwch,
ac maen nhw eisiau rhyfela!
اکنون انتخاب شده:
Salm 120: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023