Salm 145
145
Emyn o fawl
Cân o fawl. Salm Dafydd.
1Dw i’n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a’m brenin,
a bendithio dy enw di am byth bythoedd!
2Dw i eisiau dy ganmol di bob dydd
a dy foli di am byth bythoedd!
3Mae’r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli!
Mae ei fawredd tu hwnt i’n deall ni.
4Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd,
ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud.
5Byddan nhw’n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd,
a bydda i’n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti’n eu gwneud.
6Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti’n eu gwneud,
a bydda i’n adrodd hanes dy weithredoedd mawr.
7Byddan nhw’n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di,
ac yn canu’n llawen am dy gyfiawnder.
8Mae’r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog;
mor amyneddgar ac anhygoel o hael!#Exodus 34:6
9Mae’r ARGLWYDD yn dda wrth bawb;
mae’n dangos tosturi at bopeth mae wedi’i wneud.
10Mae’r cwbl rwyt ti wedi’i greu yn dy foli di, O ARGLWYDD!
Ac mae’r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!
11Byddan nhw’n dweud am ysblander dy deyrnasiad,
ac yn siarad am dy nerth,
12er mwyn i’r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud,
ac am ysblander dy deyrnasiad.
13Mae dy deyrnasiad yn para drwy’r oesoedd,
ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau!
Mae’r ARGLWYDD yn cadw ei air,
ac yn ffyddlon ym mhopeth mae’n ei wneud.#145:13 Mae’r … wneud Mae’r geiriau yma mewn un llawysgrif Hebreig. Hefyd yn un o sgroliau’r Môr Marw ac yn y cyfieithiadau Groeg a Syrieg.
14Mae’r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy’n syrthio,
ac yn gwneud i bawb sydd wedi’u plygu drosodd sefyll yn syth.
15Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti,
a ti’n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
16Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael!
Ti’n rhoi’r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw.
17Mae’r ARGLWYDD yn gyfiawn bob amser,
ac yn ffyddlon ym mhopeth mae’n ei wneud.
18Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy’n galw arno;
at bawb sy’n ddidwyll pan maen nhw’n galw arno.
19Mae’n rhoi eu dymuniad i’r rhai sy’n ei barchu;
mae’n eu clywed nhw’n galw, ac yn eu hachub.
20Mae’r ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy’n ei garu,
ond bydd yn dinistrio’r rhai drwg i gyd.
21Bydda i’n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD i’w foli,
a bydd pob creadur byw yn bendithio’i enw sanctaidd,
… am byth bythoedd!
اکنون انتخاب شده:
Salm 145: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023