Salm 16

16
Y dewis gorau – trystio Duw
Wedi’i chofnodi gan Dafydd.
1Amddiffyn fi, O Dduw;
dw i’n troi atat ti am loches.
2Dwedais wrth yr ARGLWYDD,
“Ti ydy fy Meistr i;
mae fy lles i’n dibynnu arnat ti.”
3Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,
dw i wrth fy modd gyda nhw.
4Ond bydd y rhai sy’n dilyn duwiau eraill
yn cael llwyth o drafferthion!
Dw i eisiau dim i’w wneud â’u hoffrymau o waed.
Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!
5Ti, ARGLWYDD, ydy’r un dw i eisiau.
Mae fy nyfodol i yn dy law di.
6Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;
mae gen i etifeddiaeth hyfryd.
7Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i,
ac am siarad gyda mi yn y nos.
8Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi.
Mae’n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.
9Felly, mae fy nghalon i’n llawen;
dw i’n gorfoleddu!
Dw i’n gwybod y bydda i’n saff!
10Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw,
na gadael i’r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
11Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;
bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd
a hyfrydwch diddiwedd bob amser.

اکنون انتخاب شده:

Salm 16: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید