Salm 19
19
Y greadigaeth yn dangos ysblander Duw
I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1Mae’r nefoedd yn dangos ysblander Duw,
a’r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
2Mae’r neges yn mynd allan bob dydd;
mae i’w gweld yn amlwg bob nos!
3Does dim llais go iawn, na geiriau,
na dim i’w glywed yn llythrennol.
4Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw’n ddweud;
a’r neges wedi mynd i ben draw’r byd!
Cododd babell i’r haul yn yr awyr.
5Mae’n dod allan fel priodfab o’i ystafell;
neu athletwr yn frwd i redeg ras.
6Mae’n codi ar y gorwel,
ac yn symud o un pen i’r llall.
Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
7Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith –
mae’n rhoi bywyd newydd i mi!
Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glir
ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.
8Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy’n iawn
ac yn gwneud y galon yn llawen.
Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur
ac yn ein goleuo ni.
9Mae’r gorchymyn i barchu’r ARGLWYDD yn glir
ac yn aros bob amser.
Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir –
mae e’n gwbl deg bob amser.
10Mae’r pethau yma’n fwy gwerthfawr nag aur –
ie, llwythi o aur coeth!
Maen nhw’n felysach na’r mêl
sy’n diferu o’r diliau.
11Ydyn, maen nhw’n rhoi goleuni i dy was;
ac mae gwobr fawr i’r rhai sy’n ufuddhau.
12Ond pwy sy’n gweld ei feiau ei hun?
O, maddau i mi pan dw i’n pechu heb wybod,
13a chadw fi rhag pechu’n fwriadol.
Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i.
Yna byddaf yn ddi-fai,
a dieuog o droseddu yn dy erbyn.
14Gad i’r cwbl dw i’n ei ddweud a’i feddwl
dy blesio di,
O ARGLWYDD, fy nghraig a’m hachubwr.
اکنون انتخاب شده:
Salm 19: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023