Salm 23
23
Y bugail sy’n gofalu am ei bobl
Salm Dafydd.
1Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i;
mae gen i bopeth dw i angen.
2Mae’n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd,
ac yn fy arwain at ddŵr glân sy’n llifo’n dawel.
3Mae’n rhoi bywyd newydd i mi,
ac yn dangos i mi’r ffordd iawn i fynd.
Ydy, mae e’n enwog am ei ofal.
4Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd,
fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi.
Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
5Rwyt ti’n paratoi gwledd i mi
ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio.
Rwyt ti’n tywallt olew ar fy mhen.
Mae gen i fwy na digon!
6Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon
gyda mi tra bydda i byw.
A bydda i’n mynd yn ôl i dŷ’r ARGLWYDD
am weddill fy mywyd.
اکنون انتخاب شده:
Salm 23: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023