Salm 28
28
Gweddi am help
Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, arnat ti dw i’n galw!
Paid diystyru fi – ti ydy fy nghraig i.
Os wnei di ddim ateb
bydda i’n siŵr o ddisgyn i’r bedd!
2Gwranda arna i’n galw –
dw i’n erfyn am drugaredd!
Dw i’n estyn fy nwylo
at dy deml sanctaidd.
3Paid llusgo fi i ffwrdd gyda’r rhai drwg,
y bobl hynny sy’n gwneud dim byd ond drwg.
Maen nhw’n dweud pethau sy’n swnio’n garedig
ond does dim byd ond malais yn y galon.
4Tala nôl iddyn nhw am wneud y fath beth!
Rho iddyn nhw beth maen nhw’n ei haeddu!
Cosba nhw!
5Dŷn nhw ddim yn deall
y ffordd mae’r ARGLWYDD yn gweithio.
Bydd e’n eu bwrw nhw i lawr,
a fyddan nhw byth yn codi eto!
6Bendith ar yr ARGLWYDD!
Ydy, mae e wedi gwrando arna i’n erfyn am drugaredd!
7Mae’r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi;
mae e’n darian i’m hamddiffyn.
Dw i’n ei drystio fe’n llwyr.
Daeth i’m helpu, a dw i wrth fy modd!
Felly dw i’n mynd i ganu mawl iddo!
8Mae’r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.
Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
9Achub dy bobl!
Bendithia dy bobl sbesial!
Gofala amdanyn nhw fel bugail
a’u cario yn dy freichiau bob amser!
اکنون انتخاب شده:
Salm 28: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023