Salm 38

38
Gweddi un sy’n dioddef
Salm Dafydd. I’th atgoffa.
1O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a’m cosbi i,
a dweud y drefn yn dy wylltineb.
2Mae dy saethau wedi fy anafu;
mae dy law wedi fy nharo i.
3Dw i’n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di!
Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu.
4Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i;
mae fel baich sy’n rhy drwm i’w gario.
5Mae’r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi,
a’r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp.
6Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohono i’n hun.
Dw i’n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy’r dydd.
7Mae fy ochrau’n boenus i gyd;
dw i’n teimlo’n sâl drwyddo i.
8Mae rhyw boen mud yn fy llethu’n llwyr.
Dw i’n griddfan mewn gwewyr meddwl.
9O ARGLWYDD, ti’n gwybod yn iawn be dw i eisiau!
Rwyt ti wedi nghlywed i’n griddfan.
10Mae fy nghalon i’n curo’n gyflym;
does gen i ddim nerth, a dw i’n colli fy ngolwg.
11Mae fy ffrindiau a’m teulu yn cadw draw oddi wrtho i;
a’m cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd.
12Mae’r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi,
a’r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad yn faleisus
ac yn dweud pethau twyllodrus drwy’r adeg.
13Ond dw i’n ymateb fel tawn i’n fyddar – yn gwrthod gwrando.
Dw i’n ymddwyn fel rhywun sy’n fud – yn dweud dim.
14Dw i’n clywed dim,
a dw i ddim am ddadlau gyda nhw.
15Ond ARGLWYDD, dw i’n disgwyl amdanat ti;
byddi di’n eu hateb nhw, fy meistr a’m Duw.
16Dw i’n gweddïo, “Paid rhoi’r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!”
Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro.
17Mae hi ar ben arna i!
Dw i mewn poen ofnadwy drwy’r adeg.
18Dw i’n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg.
Dw i’n poeni am fy mhechod.
19Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos,
cymaint o rai sy’n fy nghasáu i am ddim rheswm:
20pobl sy’n talu drwg am dda,
ac yn tynnu’n groes am i mi geisio gwneud beth sy’n iawn.
21Paid gadael fi, ARGLWYDD!
O Dduw, paid ti cadw draw!
22Brysia! Helpa fi,
O ARGLWYDD, fy achubwr!

اکنون انتخاب شده:

Salm 38: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید