Salm 4

4
Gweddi am help
I’r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.
1O Dduw, ateb fi pan dw i’n galw arnat!
Ti ydy’r un sy’n achub fy ngham!
Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan ohono.
Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.
2“Chi bobl feidrol,
am faint fydd fy enw’n cael ei sarhau?
Am faint ydych chi’n mynd i roi’ch bryd ar bethau diwerth,
a dilyn pethau twyllodrus?”
Saib
3Deallwch fod yr ARGLWYDD yn cadw’r rhai ffyddlon iddo’i hun!
Mae’r ARGLWYDD yn clywed pan dw i’n galw arno.
4Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu!
Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.
5Dewch â chyflwyno’r aberthau iawn iddo;
trowch a trystio’r ARGLWYDD.
6Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?”
O ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni?
7Gwna fi’n hapus eto, fel yr adeg
pan mae’r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo.
8Bydda i’n gallu gorwedd i lawr a chysgu’n dawel,
am dy fod ti, O ARGLWYDD, yn fy nghadw i’n saff.

اکنون انتخاب شده:

Salm 4: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید