Salm 40

40
Cân o fawl
I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1Ar ôl disgwyl yn frwd i’r ARGLWYDD wneud rhywbeth,
dyma fe’n troi ata i;
roedd wedi gwrando arna i’n gweiddi am help.
2Cododd fi allan o’r pwll lleidiog
a’r mwd trwchus.
Rhoddodd fy nhraed ar graig,
a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.
3Roedd gen i gân newydd i’w chanu –
cân o fawl i Dduw!
Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e,
ac yn dod i drystio’r ARGLWYDD.
4Mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD wedi’i fendithio’n fawr.
Dydy e ddim yn troi am help at bobl
sy’n brolio’u hunain ac yn dweud celwydd.
5O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint –
wedi gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni.
Does neb yn gallu dy rwystro di.
Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill,
ond mae yna ormod ohonyn nhw i’w cyfrif!
6Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau;
mae hynny’n gwbl amlwg i mi!
Ddim am aberthau i’w llosgi
ac offrymau dros bechod rwyt ti’n gofyn.
7-8Felly dyma fi’n dweud,
“O Dduw, dw i’n dod i wneud beth rwyt ti eisiau –
fel mae wedi’i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.”
Mae dy ddysgeidiaeth di’n rheoli fy mywyd i.
9Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder.
Dw i wedi dal dim yn ôl.
Ti’n gwybod hynny, O ARGLWYDD.
10Wnes i ddim cadw’r peth i mi fy hun;
ond dweud wrth bawb dy fod ti’n Dduw ffyddlon ac yn achub!
Dw i ddim wedi cadw’n dawel am dy ofal ffyddlon di.
11Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i.
Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.
12Mae peryglon di-ben-draw o’m cwmpas i ym mhobman.
Mae fy mhechodau wedi fy nal i.
Maen nhw wedi fy nallu!
Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen!
Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!
13Plîs, ARGLWYDD, achub fi!
O ARGLWYDD, brysia i’m helpu!
14Gwna i’r rhai sydd am fy lladd i
deimlo embaras a chywilydd.
Gwna i’r rhai sydd am wneud niwed i mi
droi yn ôl mewn cywilydd.
15Gwna i’r rhai sy’n chwerthin ar fy mhen i
gael eu cywilyddio a’u dinistrio.
16Ond gwna i bawb sy’n dy geisio di ddathlu’n llawen.
Gwna i’r rhai sy’n mwynhau dy weld ti’n achub ddweud,
“Mae’r ARGLWYDD mor fawr!”
17Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn,
ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer.
Ti ydy’r un sy’n gallu fy helpu a’m hachub.
O fy Nuw, paid oedi!

اکنون انتخاب شده:

Salm 40: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید