Salm 43

43
Gweddi ffoadur
(Parhad o Salm 42)
1Achub fy ngham, O Dduw!
Dadlau fy achos yn erbyn pobl anffyddlon.
Achub fi rhag y twyllwyr drwg!
2Ti ydy fy Nuw i – fy nghaer ddiogel i;
felly pam wyt ti wedi fy ngwrthod?
Pam mae’n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist,
am fod fy ngelynion yn fy ngham-drin i?
3Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd,
i’m harwain.
Byddan nhw’n dod â fi yn ôl
at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti’n byw.
4Bydda i’n cael mynd at allor Duw,
y Duw sy’n fy ngwneud i mor hapus.
Bydda i’n dy foli di gyda’r delyn,
O Dduw, fy Nuw.
5F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel?
Pam wyt ti mor anniddig?
Rho dy obaith yn Nuw!
Bydda i’n moli Duw eto
am iddo ymyrryd i’m hachub i.

اکنون انتخاب شده:

Salm 43: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید