Salm 46

46
Mae Duw gyda ni!
I’r arweinydd cerdd. Cân i leisiau merched ifanc, gan feibion Cora.
1Mae Duw yn ein cadw ni’n saff ac yn rhoi nerth i ni.
Mae e bob amser yna i’n helpu pan mae trafferthion.
2Felly fydd gynnon ni ddim ofn
hyd yn oed petai’r ddaear yn ysgwyd,
a’r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
3gyda’i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu.
Mae’r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo.
Saib
4Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen.
Ie, y ddinas lle mae’r Duw Goruchaf yn byw.
5Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio!
Bydd Duw yn dod i’w helpu yn y bore bach.
6Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio.
Pan mae Duw yn taranu mae’r ddaear yn toddi.
7Mae’r ARGLWYDD hollbwerus gyda ni!
Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!
Saib
8Dewch i weld beth mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud;
y difrod rhyfeddol mae wedi’i ddwyn ar y ddaear!
9Mae’n dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan;
mae’n malu’r bwa ac yn torri’r waywffon,
ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.
10“Stopiwch! Mae’n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!
Dw i’n llawer uwch na’r cenhedloedd;
dw i’n llawer uwch na’r ddaear gyfan.”
11Mae’r ARGLWYDD hollbwerus gyda ni!
Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!
Saib

اکنون انتخاب شده:

Salm 46: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید