Salm 56

56
Gweddi un sy’n trystio Duw
I’r arweinydd cerdd: ar yr alaw “Colomen ar Goed Derw Pell”. Wedi’i hysgrifennu gan Dafydd ar ôl iddo gael ei ddal gan y Philistiaid yn Gath.#1 Samuel 21
1Dangos drugaredd ata i, O Dduw,
dw i’n cael fy erlid!
Mae’r gelynion yn ymosod arna i drwy’r amser.
2Maen nhw’n fy ngwylio i ac yn fy erlid i’n ddi-baid.
Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn!
O Dduw, y Goruchaf.
3Pan mae gen i ofn, dw i’n dy drystio di –
4Duw, yr un dw i’n gwybod sy’n cadw ei air!
Dw i’n trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
5Maen nhw’n twistio fy ngeiriau
a dim ond eisiau gwneud niwed i mi.
6Maen nhw’n dod at ei gilydd i ysbïo arna i.
Maen nhw’n gwylio pob symudiad,
ac yn edrych am gyfle i’m lladd.
7Wyt ti’n mynd i adael iddyn nhw lwyddo?
Bwrw nhw i lawr yn dy lid, O Dduw!
8Ti’n cadw cofnod bob tro dw i’n ochneidio.
Ti’n casglu fy nagrau mewn potel.
Mae’r cwbl wedi’i ysgrifennu yn dy lyfr.
9Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i’n galw arnat ti.
Achos dw i’n gwybod un peth –
mae Duw ar fy ochr i.
10Duw, yr un dw i’n gwybod sy’n cadw ei air!
Yr ARGLWYDD – dw i’n gwybod ei fod yn cadw ei air!
11Dw i’n trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
12Dw i’n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw,
a chyflwyno offrymau diolch i ti.
13Ti wedi achub fy mywyd i,
a chadw fy nhraed rhag llithro.
Dw i’n gallu byw i ti, O Dduw,
a mwynhau goleuni bywyd.

اکنون انتخاب شده:

Salm 56: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید