Salm 63

63
Hiraeth am Dduw
Salm gan Dafydd, pan oedd yn anialwch Jwda.#1 Samuel 23–24
1O Dduw, ti ydy fy Nuw i!
Dw i wir yn dy geisio di.
Mae fy enaid yn sychedu amdanat.
Mae fy nghorff yn dyheu amdanat,
fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
2Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr,
a gweld dy rym a dy ysblander!
3Profi dy ffyddlondeb di ydy’r peth gorau am fywyd,
ac mae fy ngwefusau’n dy foli di!
4Dw i’n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd;
codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw.
5Dw i wedi fy modloni’n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd!
Dw i’n canu mawl i ti â gwefusau llawen.
6Dw i’n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely,
ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos;
7Dw i’n cofio fel y gwnest ti fy helpu –
rôn i’n gorfoleddu,
yn saff dan gysgod dy adenydd.
8Dw i am lynu’n dynn wrthot ti;
dy law gref di sy’n fy nghynnal i.
9Bydd y rhai sy’n ceisio fy lladd i
yn mynd i lawr yn ddwfn i’r ddaear.
10Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda’r cleddyf
yn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid.
11Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw.
Bydd pawb sy’n tyngu llw iddo’n gorfoleddu,
pan fydd e’n cau cegau y rhai celwyddog!

اکنون انتخاب شده:

Salm 63: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید