Salm 74
74
Gweddi ar i Dduw achub y genedl
Mascîl gan Asaff.
1O Dduw, pam wyt ti’n ddig gyda ni drwy’r amser?
Pam mae dy ffroenau’n mygu yn erbyn defaid dy borfa?
2Cofia’r criw o bobl gymeraist ti i ti dy hun mor bell yn ôl,
y bobl ollyngaist yn rhydd i fod yn llwyth sbesial i ti!
Dyma Fynydd Seion, lle rwyt ti’n byw!
3Brysia! Edrych ar yr adfeilion diddiwedd yma,
a’r holl niwed mae’r gelyn wedi’i wneud i dy deml!
4Roedd dy elynion yn rhuo wrth ddathlu eu concwest yn dy gysegr;
a gosod eu harwyddion a’u symbolau eu hunain yno.
5Roedden nhw fel dynion yn chwifio bwyeill
wrth glirio drysni a choed,
6yn dryllio’r holl waith cerfio cywrain
gyda bwyeill a morthwylion.
7Yna rhoi dy gysegr ar dân,
a dinistrio’n llwyr y deml lle roeddet ti’n aros.
8“Gadewch i ni ddinistrio’r cwbl!” medden nhw.
A dyma nhw’n llosgi pob cysegr i Dduw yn y tir.
9Does dim arwydd o obaith i’w weld!
Does dim proffwyd ar ôl,
neb sy’n gwybod am faint mae hyn yn mynd i bara.
10O Dduw, am faint mwy mae’r gelyn yn mynd i wawdio?
Ydy e’n mynd i gael sarhau dy enw di am byth?
11Pam wyt ti ddim yn gwneud rhywbeth?
Pam wyt ti’n dal yn ôl? Plîs, gwna rywbeth!
12O Dduw, ti ydy fy Mrenin i o’r dechrau!
Ti ydy’r Duw sy’n gweithredu ac yn achub ar y ddaear!
13Ti, yn dy nerth, wnaeth hollti’r môr.#Exodus 14:21
Ti ddrylliodd bennau’r ddraig yn y dŵr.
14Ti sathrodd bennau Lefiathan,#74:13,14 môr … y ddraig … Lefiathan tri symbol o anhrefn ym mytholeg y Dwyrain Canol. Mae Duw yn gryfach na’r grymoedd yma.
a’i adael yn fwyd i greaduriaid yr anialwch.
15Ti agorodd y ffynhonnau a’r nentydd,
a sychu llif yr afonydd.
16Ti sy’n rheoli’r dydd a’r nos;
ti osododd y lleuad a’r haul yn eu lle.
17Ti roddodd dymhorau i’r ddaear;
haf a gaeaf – ti drefnodd y cwbl!
18Cofia fel mae’r gelyn wedi dy wawdio di, ARGLWYDD;
fel mae pobl ffôl wedi dy sarhau di.
19Paid rhoi dy golomen i’r bwystfil!
Paid anghofio dy bobl druan yn llwyr.
20Cofia’r ymrwymiad wnest ti!
Mae lleoedd tywyll sy’n guddfan i greulondeb ym mhobman.
21Paid gadael i’r bobl sy’n dioddef droi’n ôl yn siomedig.
Gad i’r tlawd a’r anghenus foli dy enw.
22Cod, O Dduw, a dadlau dy achos!
Cofia fod ffyliaid yn dy wawdio drwy’r adeg.
23Paid diystyru twrw’r gelynion,
a bloeddio diddiwedd y rhai sy’n dy wrthwynebu di.
اکنون انتخاب شده:
Salm 74: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023