Salm 82
82
Duw, y Brenin Mawr
Salm gan Asaff.
1Mae Duw’n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol,
ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‘duwiau’.
2“Am faint ydych chi’n mynd i farnu’n anghyfiawn
a dangos ffafr at y rhai sy’n gwneud drwg?”
Saib
3“Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a’r amddifad!
Sefyll dros hawliau’r rhai anghenus sy’n cael eu gorthrymu!
4Cadw’r rhai sy’n wan a di-rym yn saff
a’u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”
5Ond dŷn nhw’n deall dim.
Maen nhw’n crwydro yn y tywyllwch,
tra mae sylfeini’r ddaear yn ysgwyd!
6Dywedais, “Duwiau ydych chi,
meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch.
7Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol;
byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.”
8Cod, O Dduw, i farnu’r byd!
Dy etifeddiaeth di ydy’r cenhedloedd i gyd.
اکنون انتخاب شده:
Salm 82: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023