Caniad Solomon 5
5
Y cariad:
1Dw i’n dod i’m gardd, ferch annwyl, fy nghariad –
i gasglu fy myrr a’m perlysiau,
i flasu’r diliau a’r mêl,
ac i yfed y gwin a’r llaeth.
Y gwesteion:
Mwynhewch y wledd, gariadon!
Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!
Y bedwaredd gerdd
Y ferch:
2Rôn i’n gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro.
Ust! Llais fy nghariad; mae’n curo –
Y cariad:
“Agor i mi ddod i mewn, f’anwylyd,
fy nghariad, fy ngholomen berffaith.
Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith,
a’m pen yn llaith gan niwl y nos.”
Y ferch:
3“Ond dw i’n noeth, heb ddim amdana i.
Ti am i mi wisgo eto, wyt ti?
A dw i wedi golchi fy nhraed.#5:3 fy nhraed Gall fod ystyr dwbl yma, gyda ‘traed’ yn cael ei ddefnyddio fel mwythair am yr organau rhywiol. Mae’n sicr yn wir am y gair ‘llaw’ yn adn. 4.
Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”
4Yna gwthiodd ei law i agor y drws,#5:4 i agor y drws Hebraeg, “drwy’r twll”.
a theimlais wefr yn mynd drwyddo i.
5Codais i’w adael i mewn;
roedd fy nwylo’n diferu o fyrr –
roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd
pan afaelais yn yr handlen.
6Agorais y drws i’m cariad,
ond roedd e wedi troi a mynd!
Suddodd fy nghalon o’m mewn pan aeth.
Chwiliais amdano, ond methu ei gael;
galwais arno, ond doedd dim ateb.
7Dyma’r gwylwyr nos yn fy ngweld
wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.
Dyma nhw’n fy nghuro a’m cam-drin
a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i –
y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau’r ddinas!
8Ferched Jerwsalem, gwrandwch –
os dewch chi o hyd i’m cariad,
dwedwch wrtho mod i’n glaf o gariad.
Y merched wrth y ferch:
9O’r harddaf o ferched,
beth sy’n gwneud dy gariad
yn well na dynion eraill?
Beth sy’n gwneud dy gariad
yn well na dynion eraill,
i ti grefu mor daer â hyn?
Y ferch:
10Mae nghariad yn ffit ac yn iach;
mae’n sefyll allan yng nghanol y dyrfa.
11Mae ei wyneb a’i wedd fel aur pur,
a’i wallt cyrliog yn ddu fel y frân.
12Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr,
yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle.
13Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau,
a chusan ei wefusau fel y lili
yn diferu o fyrr.
14Mae ei freichiau cyhyrog fel aur
wedi’u haddurno â meini gwerthfawr;
a’i gorff lluniaidd fel ifori llyfn
wedi’i orchuddio â meini saffir.
15Mae ei goesau fel pileri o farmor
wedi’u gosod ar sylfaen o aur pur.
Mae e’n sefyll fel mynyddoedd Libanus
a’u coed cedrwydd urddasol.
16Mae ei gusan mor felys;
mae popeth amdano’n ddeniadol!
Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar,
ferched Jerwsalem.
اکنون انتخاب شده:
Caniad Solomon 5: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023