Sechareia 6
6
Gweledigaeth 8 – Pedwar cerbyd rhyfel
1Edrychais eto, a’r tro yma roedd pedwar cerbyd rhyfel yn dod i’r golwg rhwng dau fynydd – mynyddoedd o bres. 2Ceffylau fflamgoch oedd yn tynnu’r cerbyd cyntaf, ceffylau duon yr ail, 3ceffylau gwynion y trydydd, a cheffylau llwyd yr olaf. Roedden nhw i gyd yn geffylau rhyfel cryfion. 4Dyma fi’n gofyn i’r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy’r rhain, syr?” 5A dyma’r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt#6:5 gwynt neu ysbryd. Mae’r gair Hebraeg yn golygu’r naill neu’r llall. y nefoedd wedi’u hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan. 6Mae’r cerbyd gyda’r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd,#6:6 gyfeiriad y gogledd Mae’r gogledd yn cael ei gysylltu â Babilon, gan mai o’r cyfeiriad hwnnw y daeth Babilon i ymosod ar Jwda – gw. 2:6-7. a’r rhai gwynion i’r gorllewin. Ac mae’r cerbyd gyda’r ceffylau llwyd yn mynd i’r de.”#6:6 de Byddai’r de yn cynrychioli’r Aifft. 7Roedd y ceffylau cryfion i’w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy’r ddaear. A dyma’r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy’r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.
8Yna dyma fe’n galw arna i, “Edrych! Mae’r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.”
Coroni Jehoshwa
9Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 10“Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae’r bobl sy’n y gaethglud wedi’i anfon gyda nhw. 11Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a’i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad. 12Yna dywed wrtho, ‘Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud,
Edrych! Mae’r dyn sy’n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro!
Mae’n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD.
13Ie, fe sy’n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a’r ddau ohonyn nhw yn cytuno’n llwyr gyda’i gilydd. 14Yna bydd y goron yn cael ei chadw yn nheml yr ARGLWYDD i atgoffa Cheldai, Tobeia, Idaïa a Joseia#6:14 Joseia Felly’r Syrieg; Hebraeg, Chen, sef “yr un hael” – llysenw ar Joseia falle (gw. adn. 10). fab Seffaneia.
15“‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw.’”#Deuteronomium 28:1
اکنون انتخاب شده:
Sechareia 6: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023