Ioan 11

11
PEN. XI.
Marwolaeth Lazarus, a’i ail-gyfodiad. 50 Prophwydoliaeth Caiphas.
1AC yr oedd vn yn glaf, a’i enw oedd Lazarus o Bethania, tref Mair a’i chwaer Martha,
2Mair [hon] ydoedd, #Pen.12.3. Math.26.7. yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag olew, ac a sychodd ei draed ef âi gwallt yr hon yr oedd ei brawd Lazarus yn glaf.
3Am hynny y danfonodd ei chwiorydd ef at [yr Iesu] gan ddywedyd: Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hof gennit yn glaf.
4A’r Iesu pan glybu [hyn] a ddywedodd, nid yw y clefyd hwnnw i farwolaeth, eithr er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw drwy hynny.
5A hoff oedd gan yr Iesu Fartha, a’i chwaer, a Lazarus.
6Am hynny, er cynted y clybu ei fod ef yn glaf, yna yr arhosodd efe ddau ddydd yn y lle yr oedd efe.
7Wedi hynny y dywedodd wrth ei ddiscyblion: awn eil-waith i Iudaea.
8Yna ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho. Rabbi, yn awr y #Pen.7.30. & 8.59. & 10.31.ceisiodd yr Iddewon dy labyddio, ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
9A’r Iesu a attebodd: onid oes deuddec awr o ddydd? os rhodia neb y dydd ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuad y byd hwn.
10Ond os rhodia neb y nos efe a dramgwydda am nad oes goleuad ynddo.
11Hyn a lefarodd efe, ac wedi hyn efe a ddywedodd wrthynt, y mae ein cyfaill Lazarus yn huno, ond yr wyfi yn myned iw ddeffroi ef.
12Y discyblion yna a ddywedasant wrtho, Arglwydd os huno y mae, efe a fydd gwych.
13Ond yr Iesu a ddywedase hyn am ei farwolaeth ef, a hwy a dybiasent mai am hun cwsc yr oedd efe yn dywedyd.
14Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, bu farw Lazarus.
15Ac y mae yn llawen gennif nad oeddwn i yno, fel y credoch, ond awn atto ef.
16Yna y dywedodd Thomas yr hwn a elwir Didimus wrth ei gyd-ddiscyblion, awn ninnau hefyd i farw gyd ag ef.
17Yna y daeth yr Iesu, ac a’i cafodd ef wedi gorwedd bellach bedwar diwrnod yn y bedd.
18(A Bethania oedd yn agos i Ierusalem, yng-hylch pymthec stad oddi wrthi)
19A llawer o’r Iddewon a ddaethant at Martha a Mair i iw cyssuro am eu brawd.
20Ac er cynted y clybu Martha ddyfod o’r Iesu, hi a aeth iw gyfarfod: ond Mair a eisteddodd gartref.
21Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu: Arglwydd, pe buasit ti ymma, ni fuase farw mo’m brawd:
22Eithr mi a wn hefyd yr awron: pa beth bynnac a ddymunech gan Dduw, y dyru Duw i ti.
23A’r Iesu a ddywedodd wrthi: fe gyfyd dy frawd di eil-waith.
24Dywedodd Martha wrtho: mi a wn y cyfyd efe eil-waith yn yr adgyfodiad y dydd diweddaf.
25Dywedodd yr Iesu wrthi: myfi yw’r cyfodiad a’r bywyd: y neb a gredo ynof, er iddo farw fydd byw.
26A phwy bynnac sydd yn fyw ac yn credu ynofi ni bydd marw byth: a ydwyt ti yn credu hyn?
27Hi a ddywedodd: ydwyf Arglwydd, yr wyfi yn credu mai ti yw y Crist Mab Duw, yr hwn oedd i ddyfod i’r byd.
28Ac wedi iddi ddywedyd hynny, hi a aeth ymmaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair gan ddywedyd, fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw am danat.
29Pan glybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth atto ef.
30Canys ni ddaethe yr Iesu etto i’r dref, ond yr oedd efe yn y lle yr aethe Martha i gyfarfod ag ef.
31Yna yr Iddewon, y rhai oeddynt gyd â hi yn y tŷ yn ei chyssuro hi, pan welsant Mair yn codi yn ebrwydd, ac yn myned allan, a’i canlynâsant hi, gan ddywedyd: y mae hi yn myned ac y bedd i ŵylo yno.
32Yna wedi dyfod Mair lle yr oedd yr Iesu, pan welodd hi ef, hi a syrthiodd i lawr wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho: Arglwydd pe buasit ti ymma, ni buase fy mrawd farw.
33A phan welodd yr Iesu hi yn ŵylo, a’r Iddewon [hefyd] y rhai a ddaethent gyd â hi yn ŵylo, efe a riddfanodd yn yr yspryd, ac a ymgynhyrfodd, ac a ddywedodd:
34Pa le y rhoesoch chwi ef? yna y dywedâsant wrtho: Arglwydd, tyret, a gwêl.
35Y’r Iesu a wylodd.
36Am hynny y dywedodd yr Iddewon, wele, fel yr oedd efe yn ei garu ef.
37Eithr rhai o honynt a ddywedâsant: oni allase hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall beri na buase hwn farw?
38Yna yr Iesu a riddfannodd eilwaith ynddo ei hun, ac a ddaeth at y bedd, ac ogof oedd, a charreg a ddodasid arno.
39Dywedodd yr Iesu: codwch y garreg a Martha chwaer yr hwn a fuase farw, a ddywedodd wrtho: Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi, herwydd y mae [yn farw] er ys pedwar diwrnod.
40A’r Iesu a ddywedodd wrthi: oni ddywedais i ti, pes credit, y ceit ti weled gogoniant Duw?
41Yna y codâsant y garreg lle yr oedd y marw wedi ei ofod: a’r Iesu gan godi ei olwg i fynu a ddywedodd, y Tad, yr wyf yn diolch i ti, am wrando o honot arnaf.
42Ond mi a ŵyddwn dy fod ti yn fyngwrando bob amser, eithr er mwyn y bobl y rhai ydynt yn sefyll o’m hamgylch, y dywedais, fel y credant mai ty di a’m hanfonaist i.
43Ac wedi iddo ddywedyd hyn: efe a lefodd â llef vchel: Lazarus, tyret allan.
44Yna yr hwn a fuase farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo, a’i wyneb a rwymasid â napcyn, a dywedodd yr Iesu wrthynt, gollyngwch ef, a gedwch iddo fyned ymmaith.
45Yna llawer o’r Iddewon y rhai a ddaethent ac Mair, ac a welsent y pethau a wnaethe yr Iesu, a gredâsant ynddo ef.
46Eithr rhai o honynt a aethant ymmaith at y Pharisæaid, ac a ddywedâsant iddynt y pethau a wnaethe yr Iesu.
47Yna yr arch-offeiriaid, a’r Pharisæaid a gasclasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth a wnawn? Canys y mae y dŷn ymma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
48Os gadawn ni ef felly, pawb a gredant iddo, ac fe a ddaw y Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl.
49Yna Caiphas vn o honynt, yr hwn oedd arch-offeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt: nid ydych chwi yn gŵybod dim:
50Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni farw o vn dŷn dros y bobl: ac na chyfyrgoller y genedl oll.
51Hyn a ddywedodd efe, nid o honaw ei hun, eithr am ei fod yn arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y bydde yr Iesu farw dros y genedl:
52Ac nid tros y genedl honno yn vnic, eithr hefyd er casclu yng-hyd blant Duw, y rhai a wascarasid.
53Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgynghorasant am ei ladd ef.
54Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysc yr Iddewon, ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yr hon sydd yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac a arhôdd yno gyd â’i ddiscyblion.
55A Phasc yr Iddewon oedd yn agos, a llawer a aethant o’r wlâd honno i fynu i Ierusalem o flaen y Pasc, iw hymlanhau eu hunain.
56Yna y ceisiâsant yr Iesu, a dywedodd y naill wrth y llall yn sefyll yn y Deml, beth a dybiwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl?
57A’r arch-offeiriaid a’r Pharisæaid a roesent orchymyn os gwydde neb pa le yr oedd efe, ar fynegu, i gael ei ddal ef.

انتخاب شده:

Ioan 11: BWMG1588

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید