Luc 15

15
PEN. XV.
Crist yn atteb y Pharisæaid y rhai oeddynt yn grwgnach am ei fod efe yn derbyn pechaduriaid, 4 yn gyntaf trwy ddammeg yr vn ddafad a gollasid o gant 11 a’r mâb ieuangaf yr hwn a fuase afradlon, 28 a’r atteb a gafodd y mab hynaf am ei soriant.
1 # 15.1-10 ☞ Yr Efengyl y trydydd Sul wedi ’r Drindod. Ac yr oedd yr holl Publicanod a’r pechaduriaid yn dyfod atto ef, i wrando arno.
2A’r Pharisæaid, a’r scrifennyddion, a wrwgnachasant gan ddywedyd, y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gŷd â hwynt.
3Yna yr adroddodd efe y ddammeg hon wrthynt, gan ddywedyd:
4 # Mar.18.12.(sic.) Pa vn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll vn o honynt, oni âd yr am yn vn pum vgain yn yr anialwch, ac a gerdd ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?
5Ac wedi iddo ei chael, efe a’i rhydd hi ar ei yscwyddau trwy lawenydd.
6A phan ddel adref, efe a eilw yng-hŷd ei gyfeillion a’i gymydogion, gan ddywedyd wrthynt, llawenhewch gŷd â mi, canys cefais fy nafad a yr hon a gollase.
7Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nêf am vn pechadur edifeiriol, mwy nag am onid vn pum vgain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
8Neu pa wraig ac iddi ddêc o ddracmonau os cyll hi vn ddracmon, ni oleu ganwyll, ac yscubo’r tŷ, a chwilio yn fanwl hyd onis caffo [hi?
9Ac wedi iddi ei chael, hi a eilw ei chyfeillesau a’i chymdogesau, gan ddywedyd, cŷd lawenychwch â mi, canys cefais fy nracmon yr hon a gollaswn.
10Felly meddaf i chwi, y mae llawenydd yng-ŵydd angelion Duw am vn pechadur a edifarhao.
11Ac efe a ddywedodd, yr oedd i ryw ŵr ddau fab.
12A’r hynaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, fy nhâd, dyro i mi y rhann a ddigwydd o’r da, ac efe a rannodd iddynt ei dda,
13Ac yn ôl ychydic ddyddiau, wedi i’r mâb ieuangaf gasclu y cwbl yng-hŷd, efe a gymmerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wascarodd ei dda, gan fyw yn afradlon.
14Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, y cododd newyn mawr trwy’r wlâd honno, ac yntef a ddechreuodd fôd mewn eisieu.
15Yna efe a aeth, ac a lynodd wrth vn o ddinaswŷr y wlad honno, yr hwn a’i danfonodd ef iw faer-dref i borthi ei foch.
16Ac efe a chwennyche lenwi ei fol o’r cibau y rhai a fwyttae’r môch: ac nis rodde nêb iddo.
17A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddywedodd, pa sawl gwâs cyflog o’ eiddo fy nhâd sydd yn cael eu gwala o fara? a minne yn marw o newyn.
18Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd, ac a ddywedaf wrtho, fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithe.
19Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fâb i ti: gwna fi fel vn o’th weision cyflog.
20Felly, efe a gododd, ac a aeth at ei dâd, a phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dâd a’i canfu ef, ac a dosturiodd, a chan redeg efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd.
21A’r mâb a ddywedodd wrtho, fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithe, ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fâb i ti.
22A’r tâd a ddywedodd wrth ei weision, dygwch allan y wisc oref, a gwiscwch hi am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac escidiau am ei draed.
23A dygwch y llo pascedig, a lleddwch ef, a bwyttawn, a byddwn lawen.
24Canys fy mâb hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw trachefn: ac efe a gollesid, ac a gaed: a hwy a ddechreuasant wneuthur yn llawen.
25Ac yr oedd y mâb hynaf yn y maes, a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywodd gerdd a dawnsio.
26Ac wedi iddo alw vn o’r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hynny.
27A hwnnw a ddywedodd wrtho, dy frawd ti a ddaeth [adref], a’th dâd a laddodd y llo pascedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach adref.
28Yna y digiodd efe, ac nid ae i mewn: am hynny y daeth ei dâd allan, ac a ymbiliodd ag ef.
29Ac yntef a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, wele, er ys hyn o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i vn amser dy orchymmyn: ac er hynny ni roddaist i mi erioed fynn i wneuthur yn llawen gŷd â’m cyfeillion.
30Eithr pan ddaeth dy fâb hwn [adref] yr hwn a dreuliodd dy dda di gŷd â phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pascedig.
31Ac efe a ddywedodd wrtho: fy mâb, yr ydwyt ti yn wastadol gŷd â mi, a hynn a feddaf sydd eiddot ti.
32Rhaid oedd lawenychu a gorfoleddu o blegit dy frawd hwn a fu farw: ac a aeth yn fyw a fu golledig, ac a gafwyd.

اکنون انتخاب شده:

Luc 15: BWMG1588

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید