Luc 13

13
1-35Jyst wedyn dâth dinion a gweu‑'tho am i Galileied we Pilat wedi'u lladd fel wen‑nhwy in i cwrdd. Atebodd‑e nwhy, “Ŷch‑chi'n meddwl bo'r Galileied 'ny, achos u bo nhwy wedi godde'r pethe 'ny, in wâth na Galileied erill? Na wen, dw‑i'n gweu‑’tho chi; ond os na newch‑chi ddifaru newch‑chi farw fel nethonhwy. Neu a ŷch‑chi'n meddwl bo'r deunaw gâth u lladd pan gwmpodd i tŵr in Siloam ar u penne in wâth dinion na'r rhei erill sy'n byw in Jeriwsalem? Na wen, dw‑i'n gweu‑'tho chi; ond os na newch‑chi ddifaru biddwch‑chi in marw in ir un ffordd a nethon‑nhwy.” Wedodd‑e'r ddameg hon wrthyn nhwy: “We dyn 'da llwyn ffigs wedd‑e wedi'i blannu in ganol i llwyni grêps, a dâth‑e a whilio am ffrwyth arno, ond ffindiodd‑e ddim byd. Gwedodd‑e wrth i garddwr, ‘Dw‑i wedi bod in dod in whilio am ffrwythe ar i llwyn ffigs 'ma ‘os tair bline, ond sena‑i wedi ffindio dim. Torra fe lawr. Pam mae‑e'n mynd â lle fan 'yn?’ Atebodd‑e, ‘Gad e fod am flwyddyn 'to, syr, nes bo fi wedi palu rown 'ddo a rhoi bach o maniwer arno; os neith ffrwyth diddu arno bydd popeth in iawn; os na neith, dorrwn‑ni e lawr.’”
Wedd‑e'n disgu in un o'u sinagoge nhwy dy’ Sabbath. We menyw fan 'ny we wedi bod â isbryd ‘os dounaw mline we'n i neud hi'n wan; wedd‑i grwm a we dim alle‑i neud i fistyn i hunan. Pan gwelo Iesu 'ddi galwodd‑e arni i ddot ato fe a gwedod‑e wrthi, “Wit‑ti'n rhydd o di wneidid’; a rhoiodd‑e i ddwylo ar ni. Ar unweth fe safodd i lan in streit a dachre rhoi gogoniant i Dduw. Pan ddigwyddodd 'ny gwedo swyddog i sinagog, we'n grac bo Iesu wedi wedi gwella ar ddy’ Sabbath, wrth i crowd, “Ma whech dwarnod i gâl i neud gwaith; dewch ar i dwarnode 'ny i gâl ich neud in well, a ddim ar ddy Sabbath.’” Wrth i ateb e wedo'r Arglwydd, “Rhagrithwyr, seno pob wan jac onoch chi in gadel i ych neu'i asyn in rhydd ar ddy’ Sabbath a'n u harwen nhwy at i dŵr? Ddile'r fenyw 'ma, rhoces i Abraham, in rhwym 'da Satan am ddounaw mlined, ddim fod wedi câl i gadel in rhydd ar ddy’ Sabbath?” Fel wedodd‑e hyn, câth pob un o'r rhei we in i erbyn e u ciwiliddio, a we'r crowd i gyd wrth u bodde 'da pethe wedd‑e'n u neud.
Gwedodd‑e, “Beth ma Teyrnas Duw fel, a i beth 'na‑i gimhrau fe? Mae‑i fel hadyn mwstad nâth dyn i gwrmid a planu in i ardd; tiddodd‑e nes dod in llwyn mowr, a we adar ir âr in nithu in i ganghene.”
Shwrne 'to gwedodd‑e, “I beth alla‑i gimharu Teyrnas Duw? Mae‑i fel berem ma menyw in i gwmrid a'n i gwato mewn naw galwn o fflwr nes bo'r berem wedi mynd trw'r fflwr i gyd.’
Âth‑e trw tre ar ôl tre a pentre ar ôl pentre in disgu ar i ffordd i Jerwsalem. Gwedo rhiwun wrtho fe, “Syr, dim ond lot fach o ddinion sy'n mynd i gâl i safio, on'dife?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Treiwch‑chi fynd miwn trw'r drws cul, achos dw‑i'n gweu‑'thoch chi, bydd lot in treial mynd miwn trwyddo, ond ddim in galler. Shwrne i'r penteulu godi i gau'r drws, os sefwch‑chi tu fas a cnoco, a gweud, ‘Syr, agor i ni’, bydd‑e'n ateb, ‘Sa‑i'n ich nabod chi; rhei o ble ŷch‑chi?’ Wedyn wedwch‑chi, ‘Nethon‑ni fita a hifed gida ti; a nes‑di in disgu ni in in stridodd ni.’ Ond wedith‑e wrthoch chi, “Sa‑i in ich nabod chi; rhei o ble ŷch‑chi? Gadwch fi fod, bob un onoch chi sy'n neud drigionu.’ Bydd boichen a crenshan dane fan 'ny, pan welwch chi Abraham, Isaac a Jacob, a'r proffwydi i gyd, in Dyernas Dduw, a chi’ch huen wedi'ich rhoi tu fas. Dewn‑nhwy o'r dwyren a'r gorllewin, o'r gogledd a'r de, a gewn‑nhwy fod in westeion i Dduw in i Deyrnas. In wir, ma rhei sy ddwetha biddan‑nhwy ginta, a rhei in ginta fydd in ddwetha.”
A'r amser 'ny dâth rhei o'r Ffariseied ato fe a gweud, “Cer bant o fan 'yn a cer mlân â di jant. Ma Herod moyn di ladd di.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Cer a gweth i candno hwnnw, ‘Heddi a fory dw‑i'n towlu mas cithreilied a'n gwella, ond i tridydd dydd byddai'n bennu'n waith.; Ond ma'n rhaid i fi fynd mlân â'n jant heddi, fory a thradwy, achos seni'n bosib i borffwd farw tu fas Jerwsalem.
“Jerwsalem, Jerwslaem, ti sy'n lladd i proffwydi a'n towlu cerrig at i rhei sy'n câl u hala ato ti, faint mor amal wdw‑i wedi ishe casglu di blant di ata i, in gowir fel ma deryn in casglu i chywion a'u cwato nhwy dan i hadenydd, ond wenoch‑chi moyn iddo ddigwydd! Dricwhc, ma’ch tŷ chi wedi câl i adel i fod ichi. Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, newch‑chi ddim ing ngweld i hys bo'r amser in dod pan wedwch chi, ‘Bendigedig yw'r un sy'n dod in enw ir Arglwdd.”

انتخاب شده:

Luc 13: DAFIS

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید