Mathew 14

14
1-36Obitu'r amser 'na cliwo Herad i Terach beth we'n câl i weud am Iesu, a gwedodd e wrth i weishon, “Ioan Fididdiwr yw hwn; mae e wedi codi o farw, a fel 'na gall pobol weud bod fid neth mowr ar waith indo fe.” We Herod wedi aresto Ioan, wedi'i glwmu e lan a'i roi e in i shâl ar gownt Herodias, gwraig i frawd Philip; achos we Ioan wedi gweu 'tho, “Sen i'n iawn iti iti i gâl hi.” Wedd e ishe lladd Ioan ond we ofon i crowd arno, achos wen nhwy'n i weld e fel proffwyd. Ar ben-blwydd Herod dawsondd rhoces Heriodias o flân i rhei we wedi dwâd i'r parti a enjoiodd Herod; so addawodd e gida llw i roi iddi hi beth binnag bise i'n holi amdano fe. Nâth i mam roi'r idea iddi ofyn, “Rho ben Ioan Fediddiwr ifi ar ddisghyl fan 'yn.” We'r brenin in becso, ond achos i fod e wedi neud llw a we'r rhei we'n ishte wrth i ford gidag e rhoiodd e ordors iddo gâl i roi iddi. Halodd e a torri pen Ioan in i shâl. Dethon nhwy â'r pen at i rhoces miwn dishgyl a nâth hi fynd ag e at i mham. Dâth disgiblion Ioan a mynd â'r coff, a'i gladdu’ wedyn dethon nhwy at Iesu a gweu 'tho beth we wedi digwydd.
Pan gliwo Iesu co fe'n cilio o'r lle 'na ar gwch i rywle tawel ar i ben i unan. Cliwo'r crowde a'i ddilyn a cered o'r trefi. Pan ddâth e o'r cwch gwelodd e growd mowr, a deimlodd ei dreni drostyn nhwy a nâth e wella'r rhei we ddim in iawn. Pan ddâth i'n nos dâth i disgiblion ato a gweud, “Ma'r lle ma'n lle unig, a ma'r dwarnod wedi mynd heibo. Hal i crowde bant fel gallan nwhy ynd miwn i'r pentrefi i bernu bwyd i’w hunen.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Sdim ishe iddyn nhwy fynd bant; rhowch rwbeth iddyn nhwy fita ich hunen.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Dim ond pum torth o farw a dou bisgodyn sy 'da ni fan 'yn.” Gwedodd e, “Dewch â nhwy 'ma ata i.” Rhoiodd e ordors i'r crowd ishet lawr ar i porfa. Wedyn cwmrodd e'r pum torth a'r ddou bisgoydn, drych lan i'r nefodd a gweud bendith; a pan wedd e wedi torri'r torthe rhoiodd e nhwy i'r disgiblion, a rhoiodd i disgiblion nhwy i'r crowde. Nethon nhwy i gyd fita hys bo nhwy'n llawn, a nethon nhwy gasglu'r cwlffe we dros ben, llond douddeg basgeded i gyd. We biti rhyw beder mil o wrwod in bita fan 'ny, heb sôn am i menwod a'r plant.
Wedyn halodd Iesu'r disgiblion i fynd miwn i gwch a mynd i'r ochor arall ‘o'i flân e, tra wedd e'n hala'r crowde bant. Âth e bant a lan i'r mini ar i ben i unan i weddïo. Pan ddâth i'n nos wedd e fan 'ny ar i ben i unan o hyd.
We'r cwch, in bell o'r tir in barod, in câl i bwrw in galed 'da'r tonne, achos we'r gwynt in i herbyn hi. Rhwng tri a whech o'r gloch i bore âth e atyn nhwy in cered ar i dŵr. Pan welo'r disgiblion i fod e'n cerd ar i dŵr, gethon nhwy ofon a gweud, “Isbryd sy 'na”; a nethon nhwy weiddi mas in uchel achos u hofon. Wedyn sharado Iesu gida nhwy, a gweud, “Peidwch becso! Fi yw e. Peidwch câl ofon.” Atebo Pedr e, “Mishtir, os ti yw e, rhoi orders ifi ddwâd atot ti ar i dŵr.” Gwedodd e, “Dere.” Dâth Pedr lawr o'r cwch, cered ar i dŵr a mynd at Iesu. Ond pen welodd e faint mor gryf we'r gwynt gâs e ofon, a wedd e'n dachre shinco pan weiddodd e mas in uchel, “Arlgwidd, safia fi!” Wedyn mistinodd Iesu i law, cidjo indo fe a gweu 'tho, “O 'na fach o ffydd sy 'da ti! Pam nes di ame?” Pan ddethon nwy miwn i'r cwch fe stopodd i gwynt. Pligo bob un we ar i cwch o'i flân e, a gweud, “In wir, ti yw Crwt Duw.”
Wedi 'ddyn groeshi nethon nhwy lando in Capernaum. Nâth dinion i lle 'ny i nabod e a halon nhwy air trw'r ardal i gyd, a dethon nhwy â bob un we'n dost ato fe a begina arno fe iddyn nhwy gâl twtsh a gweilod i wishg e. A gâth bob un nâth gwrdd â'r wishg gâl u gwella.

انتخاب شده:

Mathew 14: DAFIS

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید