Mathew 8
8
1-4Pan ddâth Iesu lawr o'r mini, dilino crowde mowr e. Dâth dyn â crwên tost a penlinio lawr o'i flân e, a gweud, “Mishtir, galli di in neud i'n well os wit ti moyn neud 'ny.” Mistino Iesu 'i law mas a twtsh ag e, “Dw i moyn neud 'ny! Ti'n well nawr.” A whap we'i grwên in iach shwrne 'to. Gwedo Iesu wrtho fe, “Dricha bo ti ddim in gweu'tho neb am 'yn, ond cer a dangosa i'r ffeirad bo ti'n well. Wedi cer a rho'r offrwm in i demel wedo Moses ddilech chi neud, a bydd bob un in gwbod bo ti'n well.”
5-34Pan we Iesu in myn miwn i Capernaum dâth canwriad ato fe a pledo 'dag e, a gweud, “Mishtir, ma'n was i'n gorwe in i tŷ gatre, wedi'i barlisu a mewn pwên sobor.” Gwedo Iesu, “Dwi'n dod i wella fe.” Atebo'r canwriad, “Mishtir, sena i'n ddigon da iti ddwâd miwn in dŷ i, ond gwed ti'r gair, a geith in was 'i wella. Dw i'n ddyn sy â pobol uwch in ben i in gweu'tha i beth i neud, a ma 'da fi sowldiwrs dana i dwi'n gweu'thon nhwy beth i neud. Dw i'n gweu'th un, 'Cer!', a mae e'n mynd; a wrth un arall, 'Dere', a mae e'n dwâd; a wrth in was, 'Na hyn', a mae e'n i neud e.” Pan gliwo Iesu hyn gâs e gwmint o sindod fel wedodd e wrth i crowde wen 'i ddilyn e, “Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, sena i wedi ffeindo shwt ffydd in neb arall in Israel. Dw i'n gweu 'thoch chi, deith pobol o bobman i ishte wrth i ford gida Abrham a Isaac a Jacob in Teyrnas Nefodd. Ond bydd i rhei we â hawl i fod 'na in câl 'u towlu mas i'r tewillwch. Biddan nw'n boichen a crenshan dane fan 'ny o achos i peên.” Gwedo Iesu wrth i canwriad, “Cer; geith e gâl i neud i ti in gowir fel wit ti wedi credu”; a gâs i was i wella'r funud 'ny. Dâth Iesu miwn i dŷ Pedr a châl bo mam-ing-ngifreth Pedr in gorwe in i gwely in dost 'da dwymyn. Gwrodd e i llaw hi a gadodd i dwymyn hi, a gododd hi a dachre drych ar u hôle nhwy. Pan ddachreuodd i nosi dethon nhwy a lot o bobl â cithtreilied indyn nhwy ato fe. Dim ond gair wedd ishe iddo fe weud cyn bo nhwy in u gadel nhwy, a wellodd e bob un wenyn nhwy'n dda. Nâth 'na ddigwydd er mwyn neud beth we'r proffwyd Eseia wedi gweud fidde'n digwydd: “Cwmrodd e'n salwch ni bant a crio bant in clefide ni.” Wrth weld crowd rownd 'ddo rhoiodd Iesu ordros i fynd i ochor arall i llyn. Dâth un o'r rhei we'n disgu'r Gifreth ato a gweu 'tho fe, “Misthir, 'na i di ddilyn di ble binnag ei di.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Ma'u twlle 'da'r cadnoid, ma lle i aros 'da adar ir awyr, ond sdim un lle 'da Crwt i Dyn i roi ben lawr.” Gwedo un arall o'i ddisgiblion wrtho fe, “Misthir, gad fi fynd i gladdu'n dad in i lle cinta.” Ond gwedo Iesu wrtho fe, “Dere di ar in ôl i, a gad-ti'r marw i galddu'r marw.” Pan âth e miwn i gwch dâth i ddisgiblion ar i ôl e. Cododd storom fowr ar i llyn fel bo'r cwch wedi'i chwato in i tone mowr; ond wedd e'n cisgu. Dethon nhwy a'i ddihuno fe a gweud, “Mishtir, safia ni, acho ŷn ni'n shinco.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Pam we ofon arnoch chi, chi rei heb ddim lot o ffydd?” Cododd e lan a sharad in sharp 'da'r gwynt a'r dŵr, a wedyn we tawelwch mowr. Gâs i dinion sinod, a gweud, “Pwy short o ddyn yw hwn, mae hyd 'nôd i gwynt a'r dŵr in grondo arno fe?” Dâth e i ochor arall i llyn, i ardal i Gadreniad, a dâth dou ddyn a cithreilied arnyn nhwy o ganol i twme i gwrdd â nhwy. Wen nhwy ddansherus iawn, so we neb in galler mynd ar hyd ir hewl 'nay. Gwediddon nhwy, “Crwt Duw, pam wit ti'n busnesa 'da ni? Wit ti wedi dwâd 'ma i neud dolur i ni cyn i'r amser iawn? Draw bishyn wrthyn nhwy we cenfent o foch in pori. Begianodd i cithreilied, “Os wit ti'n in hala ni mas, hal ni miwn i'r moch.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Cerwch.” Dethon nhwy mas a ethon miwn i'r moch, a rheodd i moch i gyd nerth u trâd lawr dros i dwnshwn a miwn i'r llyn, a boddi in i dŵr. Rhedodd i rhei we'n gofalu am i moch bant a mynd miwn i'r dre. Fan 'ny nethon nhwy weud am bopeth we wedi digwydd, in arebnnig am i cithreilied. Dâth i dre i gyd mas i gwrdd â Iesu a begian arno fynd o'u hardal nhwy.
اکنون انتخاب شده:
Mathew 8: DAFIS
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies