Psalmau 14

14
Y Psalm. XIV. Englyn Unodl Gyrch.
1Dywaid dyn ffol yn dawel,
Nid oes Duw, Gwirdhuw, dan gel:
Nid oes un, nodais enwir,
Dyn yn wir daioni a wnel.
Y bryntion dhynion lle ’dh ant,
Y drwg noeth draw ei gwnaethant;
I’w camwedh o goegedh gau,
A maith oesau, methasant.
2Duw sy ’n y nef, Bendefig,
A wyl feibion dynion dig,
Yn edrych oes, gwiwfoes gwych,
Dewrwych, a gais Duw orig.
3Ar gyfrgoll aeth yr hollfyd,
Bryntion yw ’r gweision i gyd;
Nid oes a wnel dawel dawn,
Un kyfiawn enwog hefyd.
4Oni ŵyr yr enwiriaid?
Bwyta, fal bara, heb baid,
5Fy mhobloedh, pleidiodh eu plant;
Duw ni alwant dan wiliaid.
6Cynghorion, wirion araith,
Y tylodion mwynion maith,
Er eich dirmig, dig bob dydh, —
Gwybydh Duw am eu gobaith.
7Dod iechyd, wryd warant,
Rhydhid, oblegid dy blant;
Siacob, ac Israel hael hen,
Yn llawen yno llywiant.

انتخاب شده:

Psalmau 14: SC1595

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید