Marc 15

15
Crist o flaen Pilat: ei gyffes
[Mat 27:1, 2, 11–14; Luc 23:1–3; Ioan 18:28–38]
1Ac yn ebrwydd yn y boreu, yr Arch‐offeiriaid gyd â'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, ie, yr holl Uchel‐Gynghor#15:1 Sanhedrin. Yr oedd y rhai a enwid yn cyfansoddi y Cynghor., a gydymgynghorasant#15:1 Llyth.: a wnaethant Gynghor.#Salm 2:2, ac wedi rhwymo yr Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant i Pilat. 2A gofynodd Pilat iddo, Ai tydi yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe, gan ateb, a ddywed wrtho, Tydi ydwyt yn dywedyd.
Ei ddystawrwydd
[Mat 27:12–14; Luc 23:4–7]
3A'r Arch‐offeiriaid oeddynt yn ei gyhuddo ef o lawer o bethau#15:3 eithr nid atebodd efe ddim Δ. Gad. א A B C D Brnd.#Salm 35:11. 4A Philat drachefn a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? Wele o gymaint o bethau y maent yn#15:4 yn dy gyhuddo א B C D Brnd.; yn tystiolaethu yn dy erbyn A X. dy gyhuddo. 5Ond yr Iesu mwyach nid atebodd ddim, yn gymaint ag i Pilat ryfeddu.
Ei Gondemniad
[Mat 27:15–21; Luc 23:13–19; Ioan 18:38–40]
6Ac ar bob gwyl yr arferai efe ollwng yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a#15:6 a ddeisyfent [paraiteomai] א B A Ti. WH. Diw.: a geisient [aiteomai] C X Al. Tr. ddeisyfent arno. 7Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd wedi ei garcharu gyd â'r rhai oeddynt wrthryfelwyr#15:7 wrthryfelwyr א B C D Brnd.; gyd‐wrthryfelwyr A X., y cyfryw oeddynt wedi gwneyd llofruddiaeth yn y gwrthryfel. 8A'r dyrfa a#15:8 a aeth i fyny [anabas] א B D Brnd.; a groch‐lefodd [anaboêsas] A C. aeth i fyny, ac a ddechreuodd geisio ganddo wneuthur, fel yn wastad yr arferai wneuthur iddynt. 9A Philat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynwch chwi i mi i ryddhau i chwi Frenin yr Iuddewon? 10Canys yr oedd wedi dyfod i wybod, mai o herwydd cenfigen yr oedd yr Arch‐offeiriaid wedi ei draddodi ef. 11Yr Arch‐offeiriaid a gynhyrfasant y dyrfa, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. 12A Philat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth, gan hyny, a#15:12 a fynwch A D X Al. [Tr.] Gad. B C Δ. fynwch i mi wneuthur i'r hwn yr#15:12 Yr ydych yn ei alw א B C Δ Al. Diw. WH. Gad. A D. Tr. ydych yn ei alw Brenin yr Iuddewon? 13A hwy a lefasant drachefn, Croeshoelier ef. 14Ond Pilat a ddywedodd wrthynt, Paham, canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ond hwy a lefasant yn#15:14 fwy‐fwy X; yn daer (yn aruthr, yn angerddol, llyth.: yn helaeth) yr holl brif‐law. a Brnd. daer, Croeshoelier ef. 15A Philat yn ewyllysio boddloni#15:15 Llyth.: gwneyd digon i. y dyrfa, a ryddhaodd Barabbas iddynt, ac a draddododd i fyny yr Iesu, wedi ei fflangellu, i'w groeshoelio.
Ei watwar
[Mat 27:27–30; Ioan 19:1–3]
16A'r milwyr a'i harweiniasant ef i tu fewn y Llŷs, yr hwn yw y Pretorium#15:16 Pretorium, gair Lladin, yn dynodi (1) pabell y Praetor neu y Cadfridog Rhufeinig, (2) Palasdy a Llys llywodraethwr talaeth, (3) gwersyll y milwyr Pretoraidd, (4) y milwyr eu hunain. Yr olaf, yn debyg, yw yr ystyr yn Phil 1:13 [gwel Lightfoot]. Golyga (2) yma, Palas y Llywodraethwr. Yr oedd y Llys yn rhan o'r Pretorium., ac y maent yn galw ynghyd yr holl gatrawd#15:16 Tua 600 o filwyr — y ddegfed ran o Leng., 17ac yn ei wisgo ef a phorphor#15:17 Gwisg swyddogol breninoedd a llywodraethwyr. [Ar ol Herod Antipas?]; ac wedi plethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant arno#15:17 Llyth.: am dano.; 18ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iuddewon! 19A churasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan fyned ar eu gliniau#15:19 Llyth.: a chan osod eu gliniau., hwy a'i haddolasant ef. 20Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i harweiniasant allan i'w groeshoelio.
Y Croeshoeliad
[Mat 27:31–38; Luc 23:26–34; Ioan 19:16–24]
21Ac y maent yn dir‐gymhell i wasanaeth#15:21 Gwel Mat 5:41 un ag oedd yn myned heibio — Simon o Cyrene, (fel yr oedd yn dyfod o'r wlad) tad Alexander a Rufus — fel y dygai ei groes ef. 22Ac y maent yn ei ddwyn ef i'r lle, Golgotha#15:22 Heb.: Gulgoleth., yr hyn yw, wedi ei ddeongli, Lle Penglog: 23ac a fynent roddi iddo#15:23 i yfed A. Gad. א B C L Brnd. win#15:23 Llyth.: win myrllyd. wedi ei gymysgu a myr: ond efe nis cymmerodd. 24Ac y maent yn ei groeshoelio#15:24 Prif‐law. ysg. ef, ac yn rhanu#15:24 Prif‐law. ysg. yn eu plith ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a gawsai pob un#15:24 Llyth.: pwy a gawsai pa beth, h. y. pwy a gawsai y peth hwn, a phwy y peth arall.. 25A'r drydedd awr ydoedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef. 26Ac yr oedd arysgrifen ei drosedd#15:26 Llyth.: ei achos; yna, trosedd, cyhuddiad. ef wedi ei hysgrifenu uwchlaw,
Brenin yr Iuddewon.
27A chyd âg ef y maent yn croeshoelio dau yspeiliwr: un ar y ddeheu, a'r llall ar ei law aswy#Es 58:12. 28#15:28 A'r Ysgrythyr a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyd â'r rhai anwir P L. Rhan fwyaf o'r hen gyf. [Tr.] Gad. א B C D X Al. Ti. WH. Diw. [Gwel Luc 22:37].
Ei waradwyddo
[Luc 23:35–43]
29A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ha! Tydi, yr hwn wyt yn tynu i lawr y Cysegr, ac yn ei adeiladu mewn tridiau, 30gwared dy hun, gan ddisgyn oddiar y groes. 31Yr un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd yn gwatwar yn eu plith eu hunain, gyd â'r Ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd efe, ei hun nid yw yn gallu ei wared. 32Disgyned y Crist, Brenin Israel, yn wr oddiar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai oedd wedi eu croeshoelio gyd âg ef a'i difenwasant ef#Salm 22:6–8.
Pethau cydfynedol â'r Croeshoeliad
[Mat 27:45–56; Luc 23:44–49; Ioan 19:28–30]
33A phan ddaeth y chweched awr, daeth tywyllwch dros yr holl ddaear#15:33 Neu, dir. hyd y nawfed#Joel 2:30, 31. 34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel,
Eloi, Eloi, lama#15:34 lama B D; lema א C L Δ; lima A. sabachthani#15:34 Yn yr Aramaeg: Lama (Heb. Lammah) Paham, sabachthani (Heb. azabtani) yr wyt wedi fy ngadael.#Salm 22:1:
Yr hyn ydyw, wedi ei ddeongli,
Fy Nuw, Fy Nuw, Paham yr wyt wedi fy ngadael!
35A rhai o'r rhai oedd wedi sefyll gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, Y mae efe yn galw Elias. 36A rhyw un a redodd, ac a lanwodd yspwng o finegr#15:36 Llyth.: am, sef, am ben y gorsen., ac a'i diododd ef#Salm 69:21, gan ddywedyd, Gadêwch: gwelwn os ydyw Elias yn dyfod i'w dynu ef i lawr. 37A'r Iesu a lefodd a llef uchel#15:37 Llyth.: a ollyngodd allan lef fawr., ac efe a anadlodd allan ei fywyd#Es 53:12. 38A Llen y Cysegr a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. 39A phan welodd y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef,#15:39 yn llefain felly A C D La. Gad. B L Brnd. iddo felly anadlu allan ei fywyd, efe a ddywedodd, Y dyn hwn oedd Fab Duw. 40Ac yr oedd yno wragedd hefyd, yn syllu o hirbell#Salm 38:2: yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan#15:40 Fychan am ei fod (1) yn fychan o gorffolaeth; neu (2) yn ieuengach nag Iago, brawd Ioan; neu (3) yn dal safle israddol i'r Iago arall. a Joses, a Salome: 41y rhai, pan yr oedd efe yn Galilea, a'i canlynasent ef, ac a weiniasent iddo: a gwragedd eraill lawer, y rhai a aethent i fyny gyd âg ef i Jerusalem.
Ei gladdedigaeth
[Mat 27:57–61; Luc 23:50–56; Ioan 19:38–42]
42A phan oedd hi weithian yn hwyr, am ei bod y Parotoad#15:42 Sef y dydd ar yr hwn y gwnelai yr Iuddewon y parotoad angenrheidiol ar gyfer y Sabbath neu y Gwyliau., yr hwn yw y dydd cyn#15:42 Cyn y Sabbath [Llyth.: y Cyn‐Sabbath] א B C Al. Ti. WH. Diw. ar gyfer y Sabbath A Tr. y Sabbath, 43daeth Joseph o Arimathea, Cynghorwr o sefyllfa anrhydeddus#15:43 Neu, bendefigaidd., yr hwn hefyd ei hun oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw, ac a aeth yn hyf i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. 44A Philat a ryfeddodd ei fod wedi marw eisioes; ac efe a alwodd ato y Canwriad, ac a ofynodd iddo os oedd efe wedi marw yn#15:44 yn barod B D La. Tr. WH. er ys meityn א A C Al. Ti. Diw. barod. 45A phan wybu efe oddiwrth y Canwriad, efe a roddodd y corff yn ewyllysgar#15:45 Llyth.: rhoddi yn rhodd. i Joseph. 46Ac efe a brynodd lian#15:46 Gwel 14:51. costfawr, a chan ei dynu ef i lawr, efe a'i hamdôdd ef yn y llian, ac a'i gosododd ef mewn bedd a naddesid allan o'r graig; ac a dreiglodd gareg ar ddrws y bedd. 47A Mair Magdalen a Mair mam Joses a ddaliasant sylw pa le y dodid ef.

Tällä hetkellä valittuna:

Marc 15: CTE

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään