Salmau AT Y DARLLENWYR.

AT Y DARLLENWYR.
Anwyl Gydwladwyr,
Anturiaf unwaith etto eich anerch, gan gyflwyno i’ch sylw caredig fy Benjamin hwn, mab fy henaint, a phlentyn fy hoffder. Dichon y dylwn eich hysbysu pa ham a pha fodd y darfu i mi ymgymmeryd â’r gorchwyl hwn o gwbl, gan fod genym y Salmau, wedi eu troi ar gân yn Gymraeg o’r blaen.
Y cyntaf a wnaeth hyny oedd Cadben W. Myddleton (Gwilym Canoldref), yr hwn a breswyliai yn Ngwaenynog, ger Dinbych, yn amser y frenhines Elizabeth. Dywed yr awdwr ar ddiwedd y llyfr fel hyn:— “Gorphenwyd y gwaith hwn yn Scutum, ynys yn yr India Orllewinol, ar y 24ain o Ionawr, 1595:” — dau gant a deunaw a thrigain o flynyddoedd yn ol. Ar fesurau caethion cerdd-dafod y cyfansoddodd yr hen foneddwr, bardd, a chadben ardderchog o Waenynog y Salmau gan mwyaf. Y mae ganddo rai ereill, y rhai a eilw efe, “Ofer-fesurau;” megys Englyn Cildwrn, Trybedd Menaich, Englyn Pendrwm, Englyn Milwr, Hen fesur o lyfr Hergest; ac fe ddichon un neu ddau ereill. Gan eu bod ar y cyfryw fesurau, nid ydynt gyfaddas at wasanaeth canu cynnulleidfaol o gwbl. Cyfarfyddir âg amryw, nid llawer iawn, o eiriau annealladwy i ddarllenwyr cyffredin yr oes hon, a llaweroedd o eiriau llanw, nad ydynt o un gwasanaeth i’r meddwl a’r synwyr, nac i neb na dim, ond y gynghanedd. Ceir yn y gwaith hefyd amryw ddarnau pur hapus. A’i gymmeryd gyda’i gilydd, yn annibynol ar yr ystyriaeth o’i hynafiaeth, a swydd, gradd, a pharchedigaeth yr awdwr, y mae y gwaith ynddo ei hun yn llawn deilwng o fod ar gael a chadw gan lenorion a darllenwyr clasurol y genedl. Y mae y nawfed salm a deugain ganddo ar fesur Awdl-gywydd o’r hen ganiad, medd ef — bron yr un a’r unrhyw a’r hwn a ddewisodd Edmund Prys yn ei waith ef, agos yr oll o hono. Chwaneger gair unsill yn y linell flaenaf, ac yn y drydedd, a gwna yr un yn hollol. Er enghraifft, dyma bennill o’r salm:—
“Pawb (oll) a welwch ar eu hynt,
Rhaid iddynt feirw unawr,
(Y) call ac angall, dall a doeth,
A gado ’u cyfoeth tramawr.”
Y mae ei gyfansoddiad o’r salm hono, ac ereill, mor ystwyth a dealladwy a phe buasai wedi ei wneyd ddoe ddiweddaf.
Y nesaf a ymgymmerodd â’r gorchwyl oedd yr hybarch Edmund Prys, archddiacon Meirionydd — cydoeswr a chynnorthwywr Dr. Morgan, esgob Llanelwy, yn nghyfieithiad Ysgrythyrau yr Hen Destament i’r Gymraeg, yr hwn a gyhoeddwyd yn mhen ugain mlynedd wedi i William Salisbury ddwyn ei gyfieithiad ef o’r Testament Newydd allan. Cyhoeddwyd yr argraphiad cyntaf o Salmau E. Prys yn 1630. Yr oedd hyny ryw saith mlynedd ar hugain wedi i T. SALISBURY, o Leweni, câr i W. Salisbury, ddwyn yr argraphiad cyntaf o Salmau Gwilym Canoldref allan. Bu mydryddiad E. Prys o’r Salmau yn ddefnyddiol a gwerthfawr iawn i’r addoliad cynnulleidfaol Cymreig. Dododd gân newydd o foliant i’w Duw yn ngenau yr addolwyr. Cyn hyny, nid oedd nemawr i ddim yn yr iaith i’w gael yn gymmhwys i’w ganu mewn addoliad cyhoeddus: ni wnaethai un cynfardd, na gogynfardd, nac un bardd o Ddosbarth Morganwg, nac o Ddosbarth D. ab Edmwnd, ddim at gyflenwi y diffyg hwn. I’r hen archddiacon, gan hyny, y perthyn yr anrhydedd o ddyfod yn mlaen yn gyntaf un i lafurio ar y maes yma. Cwynir na buasai wedi dwyn mwy o amrywiaeth mesurau i’r gwaith. Y mae ganddo lawer o eiriau anarferedig yn awr, a llawer o linellau anystwyth a chlogyrnog, ac y mae ei gorfanau yn aml yn boenus o aflerw. Gyda’r eithriadau hyn, gwaith gorchestol ydyw y gwaith yn ddiau: ceir ynddo ugeiniau o bennillion nad ellir eu gwella, y rhai ydynt wedi eu hystrydebu yn llyfrau emynau pob plaid grefyddol yn Nghymru, a chenir hwynt o genhedlaeth i gennhedlaeth, tra y byddo yr iaith Gymraeg ar dafod y werin.
Y trydydd a gyflawnodd y gwaith ydyw y Parch. M. Williams, M.A. (Nicander), periglor Llanrhuddlad, Môn.#Erbyn hyn, y diweddar Barch. M. Williams; canys yntau hefyd a fu farw. Pan glywodd Nicander fy mod yn ymgymmeryd â’r gwaith hwn, anfonodd lythyr caredig iawn ataf, gydag archiad am ddau gopi o hono. Cyhoeddwyd y gwaith rhagorol hwn yn 1850. Anhawdd fyddai llefaru yn rhy uchel am deilyngdod y “Psallwyr” (teitl y llyfr). Ceir ynddo lawer o’r mesurau mwyaf arferedig yn ein cynnulleidfaoedd. Y mae yr iaith yn seml ac yn goeth, y meddyliau ysbrydoledig yn cael eu gwisgo mewn arddull gweddus a phrydferth, a llaweroedd o’r pennillion yn odiaeth mewn ystwythder a melusder.
Chwi a welwch, ddarllenwyr, erbyn hyn, mai nid yr ystyriaeth o fod angen neillduol am waith arall o’r natur yma ar y Salmau a barasai i mi ymaflyd yn y gorchwyl hwn. Ni feddyliais chwaith, cynt, nac wedi ei gyflawni, am wneyd dim yn rhagorach nag a wnaethai E. Prys, ac yn enwedig Nicander: nid fel ymgeisydd am gamp felly mewn un modd y cyflwynir ef i’ch sylw. Ond tybiwn fod digon o le iddo yn Nghymru. Nid ydyw Salmau E. Prys — ond y pigion o honynt a geir yn ein llyfrau emynau — yn meddiant ond ychydig, mewn cymmhariaeth, yn y wlad. Nid ydyw y Beiblau y cyhoeddwyd y gwaith cyflawn ynddynt i’w gweled ond yn anaml yn awr. Daw hwn ond odid i ddwylaw llawer na chawsant y cyfleusdra i feddu y “Psallwyr” (Nicander) erioed, megys y bydd y “Psallwyr” yntau yn meddiant llawer, na welant byth y gwaith hwn.
Am y pa ham a’r pa fodd yr ymgymmerais â’r gwaith, megys yr addewais eich hysbysu ar y dechreu — fel hyn y bu. Pan oedd, bellach y diweddar Mr. J. A. Lloyd, a’m mab hynaf E. Rees, yn casglu ac yn parotoi eu llyfr tônau ac emynau, “Aberth Moliant” i’r wasg, ceisient genyf droi rhai o’r Salmau i fesurau neillduol at wasanaeth y llyfr hwnw:— yr hyn a wnaethum, fel y gwel y rhai y mae y llyfr ganddynt. Wrth ymrwbio felly yn y Salmau, teimlwn radd o awydd ar brydiau i gynnyg ar y gorchwyl o’u troi oll ar gân, gan gofio’r annogaeth a gawswn lawer tro gan amryw gyfeillion i ysgrifenu Nodiadau ar Lyfr y Salmau. Ond am dymmor, parai yr ystyriaeth o fawredd y gwaith i mi lwyr ddigaloni y gallaswn, mewn henaint a llesgedd, byth ei gwblhau; ond codi wnai yr ysfa ynof drachefn a thrachefn: ac felly y bûm am dymmor yn poenus gloffi rhwng dau feddwl. Yr oedd genyf y pryd hwnw lawer o’r Salmau wedi eu troi, a nodiadau ar bob un o honynt wedi eu hysgrifenu yr un pryd. Wrth fyned yn mlaen felly, yr oedd yr awydd i fyned trwy y gwaith yn cynnyddu: ond etto, pan daflwn olwg o’m blaen ar y salmau meithaf, ac yn enwedig y Salm Fawr, ymddangosai yn anobeithiol iawn i mi y gallaswn byth orphen adeiladu y “Tŵr Dafydd” hwn. Aethum at y mynydd mawr (Salm cxix.), fodd bynag, cyn cyflawni un ran o dair o’r gwaith, i edrych a oedd obaith i mi allu ei symmud ef; ond llai na “gronyn o hâd mwstard” o ffydd oedd genyf ar y dechreu — ond hi a gryfhaodd yn raddol wrth fyned yn mlaen â’r gwaith. Symmudwyd y mynydd mawr ryw fodd, a symmudwyd fy ngwan-galondid innau gydag ef i fesur helaeth; a phenderfynais, os cawn fyw, “ac os yr Arglwydd a’i mynai,” yr ymdrechwn gwblhau y gwaith.
Cadwodd llesgedd iechyd fi bron yn gwbl gartref drwy ystod gauaf a gwanwyn 1872-3, ac hyd ganol mis Ebrill, — heb fyned ond ychydig iawn allan o’r tŷ, ond y Sabbath. Trwy diriondeb trugaredd fy Meistr mawr, galluogwyd fi i lanw cylch fy ngweinidogaeth gartrefol am y tymmor hwnw o amser; ond rhyw ymlusgo yn llesg a methedig iawn y byddwn gan mwyaf. Ymddygai yr eglwys dan fy ngofal, a’r eglwysi ereill yn y dref, a gyfranogent o’m llafur, yn dyner a charedig ataf yn wyneb pob methiant a diffyg — am yr hyn y teimlaf rwymedigaeth i ddwyn cydnabyddiaeth o’u tiriondeb ynglŷn â chrybwyll y pethau hyn. Cyssegrais bob awr o bob dydd y gallai fy natur lesg ddal ati yn ystod y tymmor crybwylledig at y gorchwyl o gwblhau yr hyn oedd yn ol o’r gwaith hwn, ynghyd â gofalu am alwadau y pulpud:— a phan oedd yr awrlais yn taro pedwar, brydnawn ddydd Gwener, Mawrth 21ain, o’r flwyddyn 1873, yr oeddwn innau yn gollwng y pin o’m llaw wedi ysgrifenu y linell olaf o’r mydriad. Nid hawdd fyddai i mi anghofio fel y teimlwn y funyd hono. Diolchwn o’m calon, mi gredaf, i “Dad y trugareddau i gyd,” am gael byw i weled hyn o lafur wedi ei gwblhau; a cheisiwn ei gyflwyno i’w fendith ef, yr hwn a’m cynnaliodd ac a’m nerthodd i ddyfod trwyddo, gyda gradd o hyder y byddai i rywrai gael budd a hyfrydwch wrth ei ddarllen drwy y fendith hono. Meddyliais lawer tro, pan oeddwn wrth y gorchwyl, yn boenus a chystuddiol, am eiriau y salmydd – “Oni bae fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna am danaf yn fy nghystudd.” Felly y dywedwn innau:– Oni bae fod y Salmau yn hyfrydwch i mi, darfuasai am danaf, gan boenau corph ac iselder ysbryd, lawer diwrnod o’r tymmor y bûm, fel Paul, i raddau megys yn garcharor yn fy nhŷ ardrethol fy hun.
Am deilyngdod y gwaith, ereill — ei ddarllenwyr — ac nid myfi, sydd i dystiolaethu. Ond gallaf finnau ddywedyd cymmaint a hyn — nad oedd yn bossibl i mi gael gwell gwaith — na gwell, na chystal testyn “cân yn nhŷ fy mhererindod” a’r Salmau cyssegredig. Ond er fod mater a defnydd y gân yn dda — yn berffaith dda — yr wyf yn llwyr ymwybodol fod y gân ei hun yn ammherffaith iawn. Edryched y Nef oedd yn dosturiol a maddeugar ar bob diffygion ac ammherffeithrwydd sydd yn y gwaith. Yr wyf yn hyderus yr edrycha fy nghyfeillion â golwg caredig arno: ac edryched y rhai a garant bigo brychau a diffygion fel y mynont arno, os daw i ddwylaw neb o’r cyfryw — y mae mwy o’r pethau hyny iddynt i’w cael yn y gwaith nag a ddymunaswn fod.
Fe welir fod agos yr holl fesurau a arferir eu canu yn ein cynnulleidfaoedd wedi eu dwyn i mewn yma, a rhai nad arferir eu canu felly hefyd. Tröid y chweched Salm a deugain, a rhan o’r Salm cii. ar fesurau y cywydd a’r unodl union; a’r rhan gyntaf o Salm xlv., a’r rhan fwyaf o Salm lxviii., ar fesur yr hen alaw ardderchog Gymreig, “Ymdaith Gwŷr Harlech;” yr hwn y tybiwn i fod ei rediad yn fwy cydweddol âg ansawdd ac ysbryd y rhanau hyny o’r caniadau sanctaidd nag un y gallwn feddwl am dano. Ceir y bummed salm a thrigain ar yr hen fesur tynerfwyn, “Ar hyd y nos;” a Salm cxiv. ar fesur hen felod Gymreig enwog arall — ond fod enw brwnt iddi.
Fe wêl y darllenydd craffus fy mod mewn rhai manau yn gŵyro yn bur bell oddi wrth ein cyfieithiadau awdurdodedig, Cymreig a Saesnig. Lle y gwneir hyny, rhoddir y rheswm am dano yn y Nodiadau.
Am y Nodiadau, nid oes genyf ddim i’w ddywedyd, ond mai fy amcan ynddynt yn benaf ydoedd cynnorthwyo darllenwyr ieuaingc ac anghyfarwydd i ddyfod i gydnabyddiaeth well â hanes y Salmau, eu hawdwyr, a’r achlysuron neillduol ar y rhai y cyfansoddid y naill salm a’r llall, cyn belled ag y gellid cael hyny allan. Am amryw o honynt, y mae y teitlau sydd o’u blaen yn rhoddi y cyfryw hysbysrwydd yn uniongyrchol; ond y mae llawer heb un teitl felly iddynt. Ceisid hefyd yn y Nodiadau roddi golwg ar fater, addysg, ac athrawiaeth y salm, a’r rhagfynegiadau am Grist, &c., yn y modd byraf a symlaf a ellid, rhag chwyddo y gwaith yn ormodol.
Fy nghynnorthwywyr yn benaf yn y Nodiadau oeddynt, yr Esgob Patrick, yn ei aralleiriad o’r Salmau, Matthew Henry, Horne, Kitto, Boothroyd, &c.: ond yn wir, ni’m dygid i yn gaeth gan un o’r athrawon hyn. Ymdrechwn gadw meddwl rhydd ac annibynol wrth ymgynghori â hwynt, a dilynwn lwybr argyhoeddiad fy neall fy hun pan yn gwahaniaethu mewn barn a syniad oddi wrth y naill a’r llall — fel y bu mewn amryw leoedd.
Gyda hyn yna o grybwyllion a hysbysion yn mherthynas i’r gwaith, yr wyf yn ei ollwng i ddwylaw a sylw y rhai a ewyllysiant ei dderbyn a’i ddarllen; a gwir ddymuniad fy nghalon ydyw, ar fod i’r ysbrydoliaeth, drwy yr hon y cyfansoddwyd y Salmau sanctaidd ar y cyntaf, beri fod yr arall-eiriad mydryddol hwn o honynt, er ei holl ammherffeithrwydd, ynghyd â’r Nodiadau symlion arnynt, o ryw hyfforddiant, addysg, a bendith, i’r sawl a’u darllenant.
Ydwyf, Garedig Gydwladwyr,
Yr eiddoch fyth, &c.,
W. REES, (Hiraethog).
TŴR DAFYDD.

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte