Exodus 18
18
Ymweliad Jethro, aâi gyngor i Moses
1Clywodd tad-yng-nghyfraith Moses (sef Jethro, offeiriad Midian) am y cwbl roedd Duw wediâi wneud i Moses a phobl Israel. Clywodd fod yr ARGLWYDD wedi dod â phobl Israel allan oâr Aifft. 2Roedd Moses wedi anfon ei wraig Seffora aâi ddau fab yn Ă´l at Jethro. 3Gershom oedd enw un mab (am i Moses ddweud, âDw i wedi bod fel mewnfudwr mewn gwlad ddieithrâ), 4ac Elieser oedd y llall (am fod Moses wedi dweud, âMae Duw fy nhad wedi fy helpu, ac wedi fy achub rhag cael fy lladd gan y Pharoâ). 5A dyma Jethro yn dod â gwraig Moses aâi feibion iâr anialwch at Moses, oedd yn gwersylla wrth ymyl mynydd Sinai.#18:5 Mynydd Sinai Hebraeg, âMynydd Duwâ. 6Roedd wedi anfon neges at Moses yn dweud, âDw iân dod i dy weld di, gyda dy wraig a dy ddau fab.â 7A dyma Moses yn mynd allan iâw gyfarfod, yn ymgrymu oâi flaen ac yn ei gyfarch drwy ei gusanu. Ar Ă´l holi ei gilydd sut oedd pethau wedi bod, dyma nhwân mynd yn Ă´l i babell Moses. 8Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth roedd yr ARGLWYDD wediâi wneud iâr Pharo a phobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wediâu hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wediâu helpu nhw drwyâr cwbl. 9Roedd Jethro wrth ei fodd yn clywed am y cwbl roedd yr ARGLWYDD wediâi wneud i achub pobl Israel oâr Aifft. 10âBendith ar yr ARGLWYDD,â meddai. âMae wediâch achub chi oddi wrth y Pharo aâr Eifftiaid! 11Dw iân gweld nawr fod yr ARGLWYDD yn gryfach naâr duwiau i gyd! Maeân gallu gwneud beth maen nhwân brolio amdano yn well na nhw!â
12Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm iâw losgi ac aberthau eraill iâw cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwytaâr aberthau o flaen Duw.
Dewis swyddogion i farnu achosion
(Deuteronomium 1:9-18)
13Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio oâi flaen o fore gwyn tan nos. 14Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma feân dweud, âPam wyt tiân gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Maeâr bobl yn gorfod sefyll yma drwyâr dydd yn disgwyl eu tro.â 15âMaeâr bobl yn dod ata i am eu bod eisiau gwybod beth mae Duwân ddweud,â meddai Moses. 16âPan mae dadl yn codi rhwng pobl, maen nhwân gofyn i mi farnu, a dw iân dweud wrthyn nhw beth ydy rheolau ac arweiniad Duw.â
17âDydy hyn ddim yn iawn,â meddai tad-yng-nghyfraith Moses. 18âByddi wedi ymlâdd â ti aâr bobl. Maeân ormod o faich i ti ei gario ar dy ben dy hun. 19Gwranda ar air o gyngor, a bydd Duw yn dy helpu di. Gelli di gynrychioliâr bobl o flaen Duw, a mynd ââu hachosion ato. 20Gelli eu dysgu nhw am reolau a chyfreithiau Duw, a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fyw a beth ddylen nhw wneud. 21Ond yna rhaid i ti ddewis dynion cyfrifol â dynion duwiol a gonest, fyddaiân gwrthod derbyn breib â aâu penodi nhwân swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. 22Cân nhw farnuâr achosion cyffredin o ddydd i ddydd, ond dod ââr achosion anodd atat ti. Gad iddyn nhw ysgafnhauâr baich arnat ti drwy ddelio gydaâr achosion hawdd. 23Os gwnei di hynny (a dyna mae Duw eisiau), byddi diân llwyddo i ymdopi, a bydd y bobl yn mynd adreân fodlon.â
24Gwrandawodd Moses ar gyngor ei dad-yng-nghyfraith a gwneud y cwbl roedd yn ei awgrymu. 25Dewisodd ddynion cyfrifol o blith pobl Israel, aâu penodi nhwân swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. 26Roedden nhwân barnuâr achosion cyffredin, ac yn mynd ââr achosion anodd at Moses. Roedden nhwân gallu delio gydaâr achosion hawdd eu hunain.
27Yna dyma Moses yn ffarwelio gydaâi dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro yn Ă´l adre iâw wlad ei hun.
Chwazi Kounye ya:
Exodus 18: bnet
Pati Souliye
Kopye
Konpare
Pataje
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Š Cymdeithas y Beibl 2023