Eseia 55
55
Gwahoddiad yr ARGLWYDD
1âHei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dĹľr!
Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag!
Prynwch a bwytwch.
Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian â mae am ddim!
2Pam gwarioâch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd,
aâch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni?
Gwrandwch yn ofalus arna i!
Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.
3Gwrandwch arna i, a dewch yma.
Os gwnewch chi wrando, cewch fyw!
Bydda iân gwneud ymrwymiad hefo chi
fydd yn para am byth#Jeremeia 31:31; 32:40; Eseciel 16:60; 37:26 â
fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.#Salm 89:49
4Gwnes i eân dyst i bobloedd,
yn arweinydd yn rheoli gwledydd.â
5Byddi diân galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod,
a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di
yn rhedeg atat ti â o achos yr ARGLWYDD dy Dduw,
Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.
6Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael!
Galwch arno tra maeân agos!
7Rhaid iâr euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,
aâr rhai syân creu helynt ar eu bwriadau â
troiân Ă´l at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd;
troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.
8Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath ââch bwriadau chi,
a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath ââch ffyrdd chi
âyr ARGLWYDD syân dweud hyn.
9Fel maeâr nefoedd gymaint uwch naâr ddaear,
mae fy ffyrdd i yn uwch naâch ffyrdd chi,
aâm bwriadau i yn well naâch bwriadau chi.
10Ond fel y glaw aâr eira syân disgyn oâr awyr
a ddim yn mynd yn Ă´l nes dyfrioâr ddaear
gan wneud i blanhigion dyfu
a rhoi hadau iâw hau a bwyd iâw fwyta,
11felly maeâr neges dw iân ei chyhoeddi:
dydy hi ddim yn dod yn Ă´l heb wneud ei gwaith â
maeân gwneud beth dw i eisiau,
ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.
12Ie, byddwch chiân mynd allan yn llawen
ac yn cael eich arwain mewn heddwch.
Bydd y mynyddoedd aâr bryniauân bloeddio canu oâch blaen,
aâr coed i gyd yn curo dwylo.
13Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain,
a llwyni myrtwydd yn lle mieri.
Byddan nhwân sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD,
fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.
Chwazi Kounye ya:
Eseia 55: bnet
Pati Souliye
Kopye
Konpare
Pataje
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Š Cymdeithas y Beibl 2023