Salm 21
21
Y brenin yn dathlu gofal Duw
Iâr arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, maeâr brenin yn llawen
am dy fod tiân ei nerthu;
maeân gorfoledduân fawr
am dy fod yn rhoiâr fuddugoliaeth iddo!
2Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau,
wnest ti ddim gwrthod beth roedd eân gofyn amdano.
Saib
3Tiân ei fendithio â phopeth da,
ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.
4Gofynnodd i ti ei gadwân fyw, a dyma tiân rhoi bywyd iddo â
bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.
5Maeân enwog am dy fod wedi rhoiâr fuddugoliaeth iddo.
Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.
6Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,
aâr boddhad aâr llawenydd o fod yn dy gwmni.
7Ydy, maeâr brenin yn trystioâr ARGLWYDD.
Maeân gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,
felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.
8Byddiân llwyddo i ddal dy holl elynion;
byddiân rhy gryf iâr rhai syân dy gasĂĄu.
9Pan fyddiân dod iâr golwg
byddiân eu llosgi nhw mewn ffwrnais.
Maeâr ARGLWYDD yn ddig,
a bydd yn eu dinistrio nhw;
bydd tân yn eu llosgi nhw.
10Byddiân cael gwared ââu disgynyddion oâr ddaear;
byddan nhwân diflannu o blith y ddynoliaeth.
11Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti;
roedd ganddyn nhw gynllun
ond allen nhw byth lwyddo.
12Tiân gwneud iddyn nhw droi yn Ă´l
drwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw.
13Cod, ARGLWYDD, dangos dy nerth!
Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr.
Chwazi Kounye ya:
Salm 21: bnet
Pati Souliye
Kopye
Konpare
Pataje
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Š Cymdeithas y Beibl 2023