Huw Jones
Ganwyd Hugh Jones yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru ym 1845. Ym 1867, aeth i Goleg y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala i hyfforddi fel gweinidog. Ym 1871, bu’n gweinidogaethu mewn grŵp o eglwysi ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant, lle cafodd ei ordeinio ym 1873. Yma y priododd â Margaret Lewis. Ym 1878 symudodd i Lanllechid yn Sir Gaernarfon.
Fel pregethwr roedd yn areithydd gwych. Roedd Hugh Jones hefyd yn fardd ac yn ysgrifennu o dan yr enw barddol Huw Myfyr. Ym 1885, cyhoeddodd ei gasgliad o Salmau Can, sef “Salmydd y Cyssegr”, lle gosodwyd y salmau ar donau i’w canu. Roedd y casgliad hefyd yn cynnwys saith emyn. Fe’i cyhoeddwyd gan G. Lewis, Penygroes.
Yn 1890, symudodd i Ddinorwig, lle y bu farw yn 1891, yn 46 oed. Yn 1893, crynhowyd ei gofiant a detholiad o’i bregethau gan David Williams, Cwmyglo - sef “Cofiant a Phregethau y Parch. Hugh Jones (Huw Myfyr), Dinorwig”.
Fersiwn Digidol
Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025, gyda chymorth MissionAssist.
English:
Hugh Jones
Hugh Jones was born in Llanfihangel Glyn Myfyr, Denbighshire in north Wales in 1845. In 1867, he went to the Calvinist Methodist College at Bala to train as a minister. In 1871, he ministered at a group of churches near Llanrhaeadr-ym-Mochnant, where he was ordained in 1873. Here he married Margaret Lewis. In 1878 he moved to Llanllechid in Caernarfonshire.
As a preacher he was a great orator. Hugh Jones was also a poet and wrote under the bardic name of Huw Myfyr. In 1885, he self-published a metrical psalter called “Salmydd y Cyssegr”, where the psalms were set to melodies for singing. This also included seven hymns. This was published by G. Lewis at Pen‐y‐Groes.
In 1890, he moved to Dinorwig, where he died in 1891, aged 46. In 1893, his biography and a selection of his sermons called “Cofiant a Phregethau y Parch. Hugh Jones (Huw Myfyr), Dinorwig” was compiled by David Williams, Cwmyglo.
Digital Edition
The metrical psalter by Huw Myfyr was digitised for the Bible Society with the help of MissionAssist in 2025.