Genesis 45
45
PEN. XLV.
1 Ioseph yn ymhyspyssu iw frodyr ac yn mynegu’r achos y trefnase Duw ef i’r Aipht. 18 Pharao’n gorchymyn i Ioseph anfon am ei dâd. 24 Ioseph yn erchi iw frodyr fod yn gytun. 27 Iacob yn ymlawenychu.
1Yna Ioseph ni allodd ymmattal ger bron y rhai oll oeddynt yn sefyll gyd ag ef: am hynny y llefodd, perwch allan bawb oddi wrthif, yna nid arhosodd neb gyd ag ef, pan ymgydnabu Ioseph ai frodyr.
2Ac efe a roddes ei lef mewn wylofain, fel y clybu’r Aiphtiaid, a clybu tŷ Pharao.
3Yna Ioseph a ddywedodd wrth ei frodyr, myfi [yw] Ioseph, ai byw fy nhâd etto? yna ei frodyr ni fedrent atteb ef, o blegit brawychasent ger ei fron ef.
4Ioseph hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, dyneswch attolwg attafi, hwythau a ddynesasant: yntef a ddywedodd, myfi [yw] Ioseph eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aipht.
5Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, a’m werthu o honoch fyfi ymma, o blegit i achub enioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi.
6O blegit dymma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlâd; ac [fe a fydd] etto bum mlhynedd, y rhai [fyddant] heb arddiad, na mediad.
7Am hynny yr #Gene.50.20.hebryngodd Duw fi o’ch blaen chwi i osod i chwi hiliogaeth yn y wlâd, ac i beri bywyd i chwi, trwy ddirfawr ymwared.
8Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i ymma, onid Duw, ac efe a’m gosododd i yn dâd i Pharao, ac yn feistr ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlâd yr Aipht.
9Bryssiwch, ac ewch i fynu at fy nhâd, a dywedwch wrtho, fel hyn y dywed dy fâb Ioseph, Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht: tyred i wared attaf; nâc oeda.
10A chei drigo yng-wlâd Gosen, a bod yn agos attafi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th warthec, a’r hyn oll [sydd] gennit.
11Ac yno i’th borthaf, (o blegit pum mlhynedd o newyn [a fyddant] etto) rhac dy farw o eisieu: ti a’th deulu, a’r hyn oll [sydd] gennit.
12Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Beniamin yn gweled, mai fyng-enau i [sydd] yn ymadrodd wrthych.
13Mynegwch hefyd i’m tâd, fy holl anrhydedd i yn yr Aipht, a’r hyn oll a welsoch: bryssiwch hefyd, a dygwch fy nhâd i wared ymma.
14Yna y syrthiodd ar wddf ei frawd Beniamin, ac a wylodd: Beniamin hefyd a wylodd ar wddf yntef.
15Ac efe a gussanodd ei holl frodyr, ac a wylodd wrthynt, ac yn ol hynny ei frodyr a chwedleuasant ag ef.
16A’r gair a ddaeth i dŷ Pharao, gan ddywedyd: brodyr Ioseph a ddaethant, a da oedd [hyn] yng-olwg Pharao, ac yng-olwg ei holl weision.
17A Pharao a ddywedodd wrth Ioseph, dywet wrth dy frodyr, gwnewch hyn, llwythwch eich yscrubliaid, a cherddwch, [ac] ewch i wlâd Canaan.
18Yna cymmerwch eich tâd, a’ch teuluoedd chwi, a deuwch attaf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aipht, a chewch fwytta braster y wlad.
19Fel yr ydwyf yn gorchymyni i ti, gwnewch hyn, cymmerwch i chwi o wlâd yr Aipht gerbydau i’ch plant, ac i’ch gwragedd: a chymmerwch eich tâd, a deuwch.
20Ac nac arbeded eich llygad chwi [ddim] dodrefn: o blegit dâ holl wlâd yr Aipht sydd eiddo chwi.
21A meibion Israel a wnaethant felly, a rhoddodd Ioseph iddynt hwy gerbydau, yn ol gorchymyn Pharao, a rhodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.
22I bôb vn o honynt oll y rhoddes bâr o ddillad, ond i Beniamin y rhoddes dry chant [o ddarnau] arian, a phum pâr o ddillad.
23Hefyd iw dâd yr anfonodd fel hyn: dêc o assynod yn cludo [llwythau] o dda’r Aipht, a dêc o assynnod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd iw dâd ar hyd y ffordd.
24Yna y gollyngodd ymmaith ei frodyr, y rhai a aethant ymmaith: dywedase hefyd wrthynt hwy, nac ymrysonwch ar y ffordd.
25Felly ’r aethant i fynu o’r Aipht, ac a ddaethant [i] wlad Canaan, at eu tâd Iacob.
26Ac a fynegasant iddo ef gan ddywedyd: y mae Ioseph etto’n fyw, ac yn ddiau y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aipht: yna y llescaodd ei galon yntef, o blegit nid oedd yn credu iddynt hwy.
27Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Ioseph, y rhai o ddywedase efe wrthynt hwy: a phan ganfu efe y cerbydau ’rhai a anfonase Ioseph iw ddwyn ef, yna y bywiogodd yspryd Iacob eu tâd hwynt.
28Yna y dywedodd Israel, digon [ydyw bôd] Ioseph fy mâb etto’n fyw: âf fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
Jelenleg kiválasztva:
Genesis 45: BWMG1588
Kiemelés
Megosztás
Másolás
Szeretnéd, hogy a kiemeléseid minden eszközödön megjelenjenek? Regisztrálj vagy jelentkezz be
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.