Genesis 46

46
PEN. XLVI.
1 Mynediad Iacob i’r Aipht. 8 Pa hiliogaeth oedd iddo’r amser hwnnw. 29 Ioseph yn cyfarfod ai dâd.
1Yna y cychwnnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dâd Isaac.
2Yna y llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nôs, ac a ddywedodd, Iacob, Iacob? yntef a ddywedodd wele fi.
3Yna y dywedodd, my fi [ydwyf] Dduw [sef] Duw dy dâd, nac ofna rhac myned i wared i’r Aipht; canys gosodaf di yno yn genhedlaeth fawr.
4Myfi âf i wared gyd a thi i’r Aipht, a myfi gan ddwyn i fynu, a’th ddygaf di i fynu: Ioseph hefyd a esyd ei law ar dy lygaid.
5Yna y cyfododd Iacob o Beerseba, a meibion Israel a ddugasant Iacob eu tâd, ai plant, ai gwragedd, yn y cerbydau y rhai a anfonase Pharao iw ddwyn ef.
6Cymmerasant hefyd eu hanifeiliaid, ai golud a gasglasent yn nhîr Canaan, ac a ddaethant tua’r Aipht, #Iosu.24.4.|JOS 24:4. psal.105.23.|PSA 105:23. esay.52.4.Iacob, ai holl hioliogaeth gyd ag ef.
7Ei feibion, a meibion ei feibion gyd ag ef, ei ferched, a merched ei feibion, ai holl hâd a ddug efe gyd ag ef i’r Aipht.
8Ac dymma henwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i’r Aipht, Iacob, ai feibion, #Exod.1.2.|EXO 1:2. num.26.5.|NUM 26:5. 1.cron.4.24.cynfab Iacob [oedd] Ruben.
9A meibion Ruben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.
10A meibion Simeon, Iemuel, ac Iamin, ac Ohad, ac Iachin, a Sohar, a Saul mâb y Canaanaæes.
11Meibion Lefi hefyd, #1.Cron.6.1.Gerson, Cehath, a Merari.
12A meibion Iuda #1.Cron.2.3.Er, ac Onan, a Selah, Phares hefyd, a Zarah, a buase farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oeddynt Hesron, a Hamul.
13Meibion Isachar hefyd: #1.Cron.7.1.Thola, a Phuah, ac Iob, a Simron.
14A meibion Zabulon, Sered, ac Elon, a Iahelel.
15Dymma feibion Lea y rhai a blantodd hi i Iacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion, ai ferched, [oeddynt] oll dri dŷn ar ddec ar hugain.
16A meibion Gad: Siphion, ac Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.
17A meibion Aser #1.Cron.7.30.Imnah, ac Iisuah, ac Iisui, a Beriah, a Serah eu chwaer hwynt. A meibion Beriah: Heber, a Malchiel.
18Dymma feibion Zilpha yr hon a rodd Laban i Lea ei ferch, a hi a blantodd y rhai hyn i Iacob [sef] vn dŷn ar bymthec.
19Meibion Rahel, gwraig Iacob [oeddynt] Ioseph a Beniamin.
20Ac i Ioseph y ganwyd yn nhîr yr Aipht #Gen.41.50.Manasses, ac Ephraim, y rhai a blantodd Asnath merch Potiperah offeiriad On.
21A meibion Beniamin: #1.Cron.7.6. & 8.1.Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim a Huppim, ac Ard.
22Dymma feibion Rahel y rhai a blantodd hi i Iacob, yn bedwar dyn ar ddêc oll:
23A meibion Dan [oedd] Husim.
24A meibion Nephthali: Iahseel, a Guni, ac Ieser, a Sillem.
25Dymma feibion Bilha yr hon a rodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Iacob yn saith nŷn oll.
26Yr #Exod.1.5. Deut.10.22.holl ddynion y rhai a ddaethant gyd ag Iacob i’r Aipht yn dyfod allan oi ystlys ef heblaw gwragedd meibion Iacob [oeddynt] oll chwe dyn a thrugain.
27A meibion Ioseph y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aipht [oeddynt] ddau ddyn: yr holl ddynion y rhai a ddaethant i’r Aipht o dŷ Iacob [oeddynt] ddec a thrugain.
28Ac efe a anfonodd Iuda oi flaen at Ioseph i fynegu cyn ei ddyfodiad ef i Gosen: yna y daethant i dîr Gosen.
29Ac Ioseph a ddarparodd ei gerbyd, ac a aeth i fynu i gyfarfod ag Israel ei dâd i Gosen. Yna efe a ymddangossodd iddo: ac a syrthiodd, ar ei wddf, ac wylodd ar ei wddf ef ennyd.
30Yna y dywedodd Israel wrth Ioseph, byddaf farw bellach, wedi i’m weled dy wyneb, gan dy fod ti yn fyw etto.
31A dywedodd Ioseph wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dâd, mi a âf i fynu, ac a fynegaf i Pharao, ac a ddywedaf wrtho, fy mrodyr, a theulu fy-nhad, y rhai [oeddynt] yn nhir Canaan, a ddaethant attaf fi.
32A dynion yn bugeilio defaid ydynt, canys perchennogion anifeiliaid yddynt, a dugasant [ymma] eu praidd, ai gwarthec, a’r hyn oll [oedd] ganddynt.
33A bydded os geilw Pharao am danoch, a dywedyd, beth [yw] eich gwaith?
34Yna ddywedyd o honoch: dy weision fuant drin-wyr anifeiliaid, o’u hieuenctyd hyd yr awr hon: nyni a’n tadau hefyd: er mwyn cael o honoch drigo yn nhir Gosen. Canys ffieidd-dra’r Aiphtiaid [yw] pôb bugail praidd.

Jelenleg kiválasztva:

Genesis 46: BWMG1588

Kiemelés

Megosztás

Másolás

None

Szeretnéd, hogy a kiemeléseid minden eszközödön megjelenjenek? Regisztrálj vagy jelentkezz be