Gwedi dyfod gwraig o Samaria i dỳnu dwfr, Iesu á ddywedodd wrthi, Dyro i mi ddiod, (canys ei ddysgyblion ef á aethent i’r ddinas i brynu bwyd;) y wraig o Samaria á atebodd, Pa fodd yr wyt ti, a thi yn Iuddew, yn gofyn diod gènyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? (oblegid nid yw yr Iuddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid?) Iesu á atebodd, Ped adwaenit ti haelioni Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi ddiod, ti á ofynasit iddo ef, ac efe á roddasai i ti ddwfr bywiol. Hithau á atebodd, Sỳr, nid oes gènyt yr un ystwc, a’r pydew sy ddwfn; o ba le gàn hyny y mae genyt ti y dwfr bywiol hwnw? Ai mwy wyt ti na ’n tad Iacob, yr hwn á roddodd i ni y pydew, ac á yfodd o hono ei hunan, a’i feibion, a’i anifeiliaid? Iesu á adatebodd, Pwybynag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe á sycheda drachefn; ond pwybynag á yfo o’r dwfr à roddwyf fi iddo, ni sycheda byth mwyach; eithr y dwfr à roddwyf iddo, á fydd ynddo yn ffynnon yn tarddu i fywyd tragwyddol. Y wraig á atebodd, Sỳr, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf byth, a na ddelwyf yma i godi. Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy wr, a dyred yn ol. Hithau á atebodd, Nid oes genyf wr. Iesu á adatebodd, Da yr wyt yn dywedyd, Nid oes gènyf wr; canys pump o wŷr á fu i ti, a’r hwn sy genyt yn awr, nid yw wr i ti. Yn hyn ti á ddywedaist wirionedd. Y wraig á ddywedodd, Sỳr, mi á welaf mai proffwyd wyt ti. Ein tadau á addolasant àr y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Nghaersalem y mae y màn lle y mae yn raid addoli. Iesu á atebodd, Wraig, cred fi, y mae yr amser yn nesâu, pryd na byddoch yn dyfod i’r mynydd hwn, nac yn myned i Gaersalem i addoli y Tad. Chychwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch; ninnau ydym yn addoli y peth à wyddom; canys yr iechydwriaeth sydd o’r Iuddewon. Ond y mae yr amser yn dyfod, neu yn hytrach wedi dyfod, pan addolo y gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw yw yr addolwyr y mae y Tad yn eu ceisio. Ysbryd yw Duw, a rhaid i’r rhai à’i haddolant ef, ei addoli ef mewn ysbryd a gwirionedd. Y wraig á adatebodd, Mi á wn bod y Messia yn dyfod, (hyny yw Crist;) pan ddelo hwnw, efe á ddysg i ni bob peth. Iesu á ddywedodd wrthi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddyddan â thi, yw hwnw.