Ioan 4
4
DOSBARTH III.
Y Daith i Alilea.
1-3 Pan wybu Iesu glywed o’r Phariseaid ei fod ef yn gwneuthur ac yn trochi mwy o ddysgyblion nag Ioan (èr mai nid Iesu ei hun, ond ei ddysgyblion, oedd yn trochi), efe á adawodd Iuwdea, ac á ddychwelodd i Alilea.
4-6Gàn fod yn raid iddo fyned drwy Samaria, efe á ddaeth i ddinas yn Samaria à elwid Sychar, gerllaw y rhandir à roddasai Iacob iddei fab Ioseph. Ac yno yr oedd ffynnon Iacob. Ac Iesu, yn ddiffygiol gàn y daith, á eisteddodd wrth y ffynnon, ac yn nghylch y chwechfed awr ydoedd hi.
7-26Gwedi dyfod gwraig o Samaria i dỳnu dwfr, Iesu á ddywedodd wrthi, Dyro i mi ddiod, (canys ei ddysgyblion ef á aethent i’r ddinas i brynu bwyd;) y wraig o Samaria á atebodd, Pa fodd yr wyt ti, a thi yn Iuddew, yn gofyn diod gènyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? (oblegid nid yw yr Iuddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid?) Iesu á atebodd, Ped adwaenit ti haelioni Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi ddiod, ti á ofynasit iddo ef, ac efe á roddasai i ti ddwfr bywiol. Hithau á atebodd, Sỳr, nid oes gènyt yr un ystwc, a’r pydew sy ddwfn; o ba le gàn hyny y mae genyt ti y dwfr bywiol hwnw? Ai mwy wyt ti na ’n tad Iacob, yr hwn á roddodd i ni y pydew, ac á yfodd o hono ei hunan, a’i feibion, a’i anifeiliaid? Iesu á adatebodd, Pwybynag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe á sycheda drachefn; ond pwybynag á yfo o’r dwfr à roddwyf fi iddo, ni sycheda byth mwyach; eithr y dwfr à roddwyf iddo, á fydd ynddo yn ffynnon yn tarddu i fywyd tragwyddol. Y wraig á atebodd, Sỳr, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf byth, a na ddelwyf yma i godi. Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy wr, a dyred yn ol. Hithau á atebodd, Nid oes genyf wr. Iesu á adatebodd, Da yr wyt yn dywedyd, Nid oes gènyf wr; canys pump o wŷr á fu i ti, a’r hwn sy genyt yn awr, nid yw wr i ti. Yn hyn ti á ddywedaist wirionedd. Y wraig á ddywedodd, Sỳr, mi á welaf mai proffwyd wyt ti. Ein tadau á addolasant àr y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Nghaersalem y mae y màn lle y mae yn raid addoli. Iesu á atebodd, Wraig, cred fi, y mae yr amser yn nesâu, pryd na byddoch yn dyfod i’r mynydd hwn, nac yn myned i Gaersalem i addoli y Tad. Chychwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch; ninnau ydym yn addoli y peth à wyddom; canys yr iechydwriaeth sydd o’r Iuddewon. Ond y mae yr amser yn dyfod, neu yn hytrach wedi dyfod, pan addolo y gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw yw yr addolwyr y mae y Tad yn eu ceisio. Ysbryd yw Duw, a rhaid i’r rhai à’i haddolant ef, ei addoli ef mewn ysbryd a gwirionedd. Y wraig á adatebodd, Mi á wn bod y Messia yn dyfod, (hyny yw Crist;) pan ddelo hwnw, efe á ddysg i ni bob peth. Iesu á ddywedodd wrthi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddyddan â thi, yw hwnw.
27-30Ar hyn, ei ddysgyblion ef á ddaethant, a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddyddan â gwraig; èr hyny ni ddywedodd neb o honynt, Beth á geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddyddan â hi? Yna y wraig á adawodd ei phiser, a gwedi myned i’r ddinas, á ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, gwelwch ddyn, yr hwn á ddywedodd i mi yr hyn oll à wneuthym erioed. Onid hwn yw y Messia? Yn ganlynol hwy á aethant allan o’r ddinas, ac á ddaethant ato ef.
31-38Yn y cyfamser, y dysgyblion gàn ddeisyfu arno, á ddywedasant, Rabbi, bwyta. Yntau á atebodd, Y mae genyf fi fwyd iddei fwyta, yr hwn ni wyddoch chwi am dano. Yna ei ddysgyblion ef á ddywedasant wrth eu gilydd, A ddaeth rhywun a bwyd iddo? Iesu á atebodd, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorphen ei waith ef. Onid ydych chwi yn dywedyd, Wedi pedwar mis y daw y cynauaf? Ond yr wyf fi yn dywedyd, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch àr y meusydd; canys y maent eisioes yn ddigon gwynion i’r cynauaf. Y medelwr sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu y ffrwyth èr bywyd tragwyddol, fel y gallo yr heuwr a’r medelwr lawenychu yn nghyd. Canys yn hyn y gwireddir y ddiareb, Y naill sydd yn hau, a’r llall sydd yn medi. Myfi á’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: ereill á lafuriasant, a chwithau ydych yn cael meddiant o’u llafur hwynt.
39-42A llawer o Samariaid o’r ddinas hòno á gredasant ynddo àr dystiolaeth y wraig, yr hon á ddywedodd, Efe á fynegodd i mi yr hyn oll à wneuthym erioed. Am hyny pan ddaethant ato ef, hwy á attolygasant iddo aros gyda hwynt; ac efe á arosodd yno ddeuddydd. A mwy o lawer á gredasant, oblegid yr hyn à glywsant ganddo ef ei hun; a hwy á ddywedasant wrth y wraig, Nid oblegid yr hyn à adroddaist ti, yr ydym ni yn awr yn credu; canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac á wyddom, mai hwn yn ddiau yw Iachawdwr y byd, y Messia.
43-45Ar ol y ddeuddydd, Iesu á ymadawodd ac á aeth i Alilea; canys efe á dystiasai ei hun, nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun. Wedi iddo ddyfod i Alilea, efe á dderbyniwyd yn resawgar gán y Galileaid, y rhai á welsent yr holl bethau à wnaethai efe yn Nghaersalem àr yr wyl; canys hwythau hefyd á ddaethent i’r wyl.
46-54Yna Iesu á ddychwelodd i Gana yn Ngalilea, lle y gwnaethai efe y dwfr yn win. Ac yr oedd yno ryw swyddog o’r llys, yr hwn yr oedd ei fab yn gorwedd yn glaf yn Nghapernäum. Pan glybu hwn bod Iesu gwedi dyfod o Iuwdea i Alilea, efe á aeth ato ef, ac á attolygodd iddo ddyfod ac iachâu ei fab ef, yr hwn oedd yn mron marw. Iesu á ddywedodd wrtho, Oni welwch chwi arwyddion ac aruthrodion, ni chredwch. Y swyddog á atebodd, Dyre, Sỳr cyn marw fy mhlentyn. Iesu á adatebodd, Dos ymaith. Y mae dy fab yn iach. A’r gwr á gredodd y gair à ddywedasai Iesu, ac á aeth ymaith. Fel yr oedd efe yn dychwelyd, ei weision á gyfarfuant ag ef, ac á fynegasant iddo bod ei fab yn iach. Yna efe á ofynodd iddynt yr awr y dechreuodd efe wella. Hwythau á atebasant, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y dwymyn ef. Yna y gwybu y tad mai yr un awr ydoedd ag y dywedasai Iesu wrtho, Y mae dy fab yn iach; ac efe á gredodd, a’i holl deulu. Yr ail wyrth hon á wnaeth Iesu, gwedi dychwelyd o Iuwdea i Alilea.
Արդեն Ընտրված.
Ioan 4: CJW
Ընդգծել
Կիսվել
Պատճենել
Ցանկանու՞մ եք պահպանել ձեր նշումները ձեր բոլոր սարքերում: Գրանցվեք կամ մուտք գործեք
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.