Ond Iesu a’u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn; yr ydwyf finnau hefyd yn gweithio. Am hyn yr Iuddewon á roisant eu bryd yn fwy àr ei ladd ef, oblegid iddo nid yn unig dòri y Seibiaeth, ond hefyd iddo, drwy alw Duw ei briod Dad, ei wneuthur ei hun yn gydradd â Duw. Yna Iesu á’u cyfarchai hwynt, gàn ddywedyd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, ond fel y gwelo efe y Tad yn gwneuthur; canys pa bethau bynag y mae efe yn eu gwneuthur, y cyfryw y mae y Mab yr un ffunud yn eu gwneuthur. Canys y Tad sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe ei hun yn ei wneuthur; Na, efe á ddengys iddo weithredoedd mwy na’r rhai hyn, y rhai á wnant i chwi sỳnu. Oblegid megys y mae y Tad yn cyfodi ac yn bywâu y meirw, felly hefyd y mae y Mab yn bywâu y rhai à fỳno; canys y Tad nid yw yn barnu neb, wedi rhoddi yr awdurdod i farnu yn hollol i’r Mab, fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tad. Y neb nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tad, yr hwn á’i hanfonodd ef. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, yr hwn sydd yn gwrandaw fy athrawiaeth i, ac yn credu yr hwn à’m hanfonodd i, y mae ganddo fywyd tragwyddol, a ni oddef golledigaeth, am ei fod wedi myned trwodd o farwolaeth i fywyd. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, y mae yr amser yn dyfod, neu yn hytrach wedi dyfod, pan glywo y meirw lef Mab Duw; a chàn glywed y byddant byw. Canys megys y mae gàn y Tad fywyd ynddo ei hunan felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; ac á roddes iddo ïe yr awdurdod barnol hefyd, oherwydd ei fod yn Fab Dyn. Na ryfeddwch am hyn; canys y mae yr amser yn dyfod pan y caiff pawb à sydd yn eu beddau glywed ei leferydd ef, ac y deuant allan. Y rhai à wnaethant dda, á gyfodant i fwynâu bywyd; y rhai á wnaethant ddrwg, á gyfodant i ddyoddef cosbedigaeth. Nis gallaf fi wneuthur dim o honof fy hunan; fel yr wyf yn clywed, yr wyf yn barnu; a’m barn i sy gyfiawn, am nad ydwyf yn ceisio rhyngu fy modd fy hunan, ond rhyngu bodd yr hwn à’m hanfonodd i.