Gwedi iddynt ei gael ef àr y làn draw, hwy á ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? Iesu á atebodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr ydych yn fy ngheisio i, nid am i chwi weled gwyrthiau, ond am i chwi fwyta o’r torthau, a chael eich digoni. Gweithiwch nid am y bwyd à dderfydd, ond am y bwyd à bery drwy fywyd tragwyddol, yr hwn á ddyry Mab y Dyn i chwi; canys iddo ef y rhoddes y Tad, sef Duw, ei ardystiaeth. Hwy á ofynasant iddo, gàn hyny, Pa weithredoedd yw y rhai y gofyna Duw i ni eu gwneuthur? Iesu á atebodd, Hwn yw y gwaith à ofyna Duw, bod i chwi gredu yn yr hwn à ddanfonodd efe allan. Hwythau á adatebasant, Pa wyrth ynte yr wyt ti yn ei gwneuthur, fel drwy ei gweled, y credom i ti? Pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? Ein tadau ni á fwytasant y màna yn yr anialwch; fel y mae yn ysgrifenedig, “Efe a roddes iddynt fara nefol iddei fwyta.” Yna y dywedodd Iesu wrthynt, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid Moses á roddodd i chwi y bara nefol; ond fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi y gwir fara nefol; canys bara Duw ydyw yr hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. Am hyny, hwy á ddywedasant wrtho, Feistr, dyro i ni y bara hwn yn wastadol. Iesu á atebodd, Myfi yw bara y bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna byth; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda byth.