성경 앱 로고
검색 아이콘

Salm 126

126
Gweddi am help Duw
Cân yr orymdaith.
1Ar ôl i’r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto,
roedden ni fel rhai’n breuddwydio –
2roedden ni’n chwerthin yn uchel,
ac yn canu’n llon.
Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud:
“Mae’r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!”
3Ydy, mae’r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni.
Dŷn ni mor hapus!
4O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto,
fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?
5Bydd y rhai sy’n wylo wrth hau
yn canu’n llawen wrth fedi’r cynhaeaf.
6Mae’r un sy’n cario’i sach o hadau
yn crio wrth fynd i hau.
Ond bydd yr un sy’n cario’r ysgubau
yn dod adre dan ganu’n llon!

선택된 구절:

Salm 126: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요