성경 앱 로고
검색 아이콘

Salm 127

127
Canmol daioni Duw
Cân yr orymdaith. Salm Solomon.
1Os ydy’r ARGLWYDD ddim yn adeiladu’r tŷ,
mae’r adeiladwyr yn gweithio’n galed i ddim pwrpas.
Os ydy’r ARGLWYDD ddim yn amddiffyn dinas,
mae’r gwyliwr yn cadw’n effro i ddim byd.
2Does dim pwynt codi’n fore
nac aros ar eich traed yn hwyr
i weithio’n galed er mwyn cael bwyd i’w fwyta.
Ie, Duw sy’n darparu ar gyfer y rhai mae’n eu caru,
a hynny tra maen nhw’n cysgu.
3Ac ie, yr ARGLWYDD sy’n rhoi meibion i bobl;
gwobr ganddo fe ydy ffrwyth y groth.
4Mae meibion sy’n cael eu geni i ddyn pan mae’n ifanc
fel saethau yn llaw’r milwr.
5Mae’r dyn sy’n llenwi ei gawell gyda nhw
wedi’i fendithio’n fawr!
Fydd e ddim yn cael ei gywilyddio
wrth ddadlau gyda’i elynion wrth giât y ddinas.

선택된 구절:

Salm 127: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요