Kisary famantarana ny YouVersion
Kisary fikarohana

Marc 9:42-50

Marc 9:42-50 DAW

“Pwy bynnag sy'n rhwystro un o'r rhai bach hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr â maen melin mawr am ei wddf. Os bydd dy law yn dy rwystro, tor hi i ffwrdd; mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd ag un llaw na chadw'r ddwy a mynd i dân anniffoddadwy uffern. Os bydd dy droed yn rhwystr i ti, tor hi i ffwrdd; mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chadw dy ddwy droed a chael dy daflu i uffern. Os bydd dy lygad yn dy rwystro, tyn hi allan; mae'n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw ag un llygad na chadw'r ddwy a chael dy daflu i uffern lle nad ydy pryf yn marw na thân yn diffodd. Caiff pob un ei buro â thân. Mae halen yn dda, ond os bydd wedi colli ei flas, sut gellir ei ddefnyddio i halltu? Byddwch yn bobl â halen ynoch, a byddwch fyw'n heddychlon gyda'ch gilydd.”