Salm 111
111
Cân o fawl i’r ARGLWYDD
1Haleliwia!
Dw i’n diolch i’r ARGLWYDD o waelod calon,
o flaen y gynulleidfa o’i bobl ffyddlon.
2Mae’r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr!
Maen nhw’n bleser pur i bawb sy’n myfyrio arnyn nhw.
3Mae’r cwbl yn dangos ei ysblander a’i urddas,
a’i fod e bob amser yn ffyddlon.
4Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud!
Mae’r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!
5Mae e’n rhoi bwyd i’w rai ffyddlon;
mae bob amser yn cofio’r ymrwymiad wnaeth e.
6Dwedodd wrth ei bobl y byddai’n gwneud pethau mawr,
a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw.
7Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn.
Mae’r pethau mae’n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy,
8ac yn sefyll am byth.
Maen nhw’n ffyddlon ac yn deg.
9Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd,
ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser.
Mae ei enw’n sanctaidd ac i gael ei barchu.
10Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth.
Mae pawb sy’n gwneud hynny yn gwneud y peth call.
Mae e’n haeddu ei foli am byth!
Voafantina amin'izao fotoana izao:
Salm 111: bnet
Asongadina
Dika mitovy
Mampitaha
Hizara
Tianao hovoatahiry amin'ireo fitaovana ampiasainao rehetra ve ireo nasongadina? Hisoratra na Hiditra
© Cymdeithas y Beibl 2023