Лого на YouVersion
Икона за пребарување

Genesis 13

13
PEN. XIII.
Mynediad Abram o’r Aipht. 8 Abram, a Lot yn ymado. 14 Duw yn addo gwlad Canaan i Abram eilwaith. 18 Abram yn gwneuthur allor i Dduw.
1Ac Abram aeth i fynu o’r Aipht, efe ai wraig, a’r hyn oll [oedd] eiddo: a Lot gyd ag ef tu a’r dehau.
2Ac #Gene.36.7.Abram [oedd] gyfoaethog iawn, o anifeiliaid, [ac] o arian, ac o aur.
3Ac efe a aeth ar ei deithoedd, o’r dehau hyd Bethel, hyd y lle yr hwn y buase ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai.
4I lê #Gene.36.25.’r allor yr hon a wnaethe efe yno o’r cyntaf, a llê y galwase Abram a’r enw yr Arglwydd.
5Ac i Lot hefyd yr hwn a aethe gyd ag Abram, yr oedd defaid, a gwarthec, a phebyll.
6A’r wlâd nid oedd ddigon helaeth iddynt i drigo yng-hyd am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel nad allent drigo yng-hyd.
7Cynnen hefyd oedd rhwng bugelydd anifeiliaid Abram, a bugelydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd, a’r Phereziaid oeddynt yna yn trigo yn y wlâd.
8Yna Abram a ddywedodd wrth Lot, na fydded cynnen, attolwg rhyngo fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid ti, o herwydd dynion [ydym] ni [sydd] frodyr.
9Onid yw yr holl dîr o’th flaen di? ymnailltua attolwg oddi wrthif, os ar y llaw asswy y [troi] minne a droaf ar y ddehau: ac os ar y llaw ddehau, minne a droaf ar yr asswy.
10Yna y cyfododd Lot ei olŵg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy [ydoedd] oll, fel gardd yr Arglwydd, fel tîr yr Aipht, ffordd yr elych di i Soar cyn difetha o’r Arglwydd Sodoma a Gomorra.
11A Lot a ddewisodd iddo ef wastadedd yr Iorddonen, a Lot a fudodd o’r Dwyrain, felly yr ymnailltuasant bôb vn oddi wrth ei gilydd.
12Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn-ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodoma.
13A dynion Sodoma [oeddynt] ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.
14A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymnailltuo o Lot oddi wrtho ef, cyfot dy lygaid, ac edrych o’r lle yr hwn yr ydwyt ynddo tu a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewyn.
15Canys #Genes.12.7.|GEN 12:7. gen.15.7.|GEN 15:7. gen.26.24.|GEN 26:24. deut.34.4.yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th hâd bŷth.
16Gossodaf hefyd dy hâd ti fel llŵch y ddaiar, megis os dichon gŵr rifo llŵch y ddaiar, yna y rhifir dy hâd dithe.
17Cyfot rhodia drwy yr wlâd, ar ei hŷd, ac ar ei llêd, canys i ti y rhoddaf hi.
18Ac Abram a symmudodd [ei] luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng-ŵastadedd Mamre, yr hwn [sydd] yn Hebron, ac a adailadodd yno allor i’r Arglwydd.

Селектирано:

Genesis 13: BWMG1588

Нагласи

Сподели

Копирај

None

Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се