Genesis 26
26
PEN. XXVI.
Duw yn ymgeleddu Isaac yn amser newyn 3, Ac yn addo iddo wlâd Canaan, a’r fendith yng-Hrist 7, Isaac yn galw ei wraig yn chwaer 12, llwyddiant Isaac 15 Y Philistiaid yn llestr dwfr i Isaac, ac yn ei yrru o’r wlâd 24, Duw ’n cyssuro Isaac 26, Abimelec yn gwneuthur cyngrair ag Isaac 34. Gwragedd Esau.
1Yna y bu newyn yn y tir, heb law y newyn cyntaf yr hwn a fuase yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelec brenin y Philistiaid i Gerar.
2Canys yr Arglwydd a ymddangossase iddo ef, ac a ddywedase, na ddos i wared i’r Aipht, aros yn y wlâd yr hon a ddywedwyf wrthyt.
3Ymdeithia yn y wlâd honn, a mi a fyddaf gyd a thi, ac a’th fendithiaf: o herwydd i ti ac i’th hâd y rhoddaf yr holl wledydd hynn, ac mi a gyflawnaf fy llw’r hwn a dyngais wrth Abraham dy dâd ti.
4A #Gen.22.17.mi a amlhaf dy hâd ti fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th hâd di yr holl wledydd hynn: a holl genhedlaethau y ddaiar a fendithir yn dy hâd ti,
5Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fyng-hadwraethau, fyng-orchymynnion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.
6Felly y trigodd Isaac yn Gerar.
7A gwŷr y lle hwnnw a ymofynnasant am ei wraig ef, ac efe a ddywedodd, fy chwaer [yw] hi canys ofnodd ddywedydd fyng-wraig [yw] rhac [eb ef] i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebecca: canys hi [ydoedd] dêg yr olwg.
8Yna y bu gwedi ei fod yno ddyddiau lawer, i Abimelec brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr, a chanfod, ac wele Isaac yn chware â Rebecca ei wraig.
9Yna Abimelec a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, wele, yn ddiau dy wraig [yw] hi: a pha ham y dywedaist fy chwaer [yw] hi? yna y dywedodd Isaac wrtho, dywedais [hynn] rhac fy lladd oi phlegit.
10A dywedodd Abimelec, pa ham y gwnaethost hynn a ni? braidd na orweddodd vn o’r bobl gyd a’th wraig di, felly y dygasyt arnom ni bechod.
11Yna y gorchymynnodd Abimelec i’r holl bobl, gan ddywedyd: Yr hwn a gyffyrddo â’r gŵr hwn neu ai wraig a leddir yn farw.
12Ac Isaac a hauodd yn y tîr hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn hōno y can-cymmaint: felly y bendithiase y’r Arglwydd ef.
13A’r gŵr a gynnyddodd, ac aeth gan fyned a thyfu, hyd onid aeth yn fawr odieth.
14Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid a chyfoeth o warthec, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigennasant wrtho ef.
15A’r holl bydewau y rhai a gloddiase gweision ei dâd ef yn nyddiau Abraham ei dâd ef, y Philistiaid ai caeasant, ac ai llanwasant a phridd.
16Ac Abimelec a ddywedodd wrth Isaac, dos oddi wrthym-ni, canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
17Ac Isaac aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn-nyffrynn Gerar, ac a bresswyliodd yno.
18Ac Isaac a ddychwelodd, ac a gloddiodd y pydewau dwfr, y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dâd ef, ac a gaease y Philistiaid wedi marw Abraham: ac a henwodd henwau arnynt, yn ol yr henwau y rhai a henwase ei dâd ef arnynt hwy.
19Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegoc.
20Yna bugeiliaid Gerar a ymrysonnasant a bugeiliaid Isaac gan ddywedyd: y dwfr [sydd] eiddom ni, yna efe a alwodd henw y pydew Esec: o herwydd ymgynhennu o honynt ag ef.
21Cloddiasant hefyd bydew arall, ac ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei henw ef Sitnah.
22Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall, ac nid ymrysonasant am hwnnw, ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth: ac a ddywedodd, canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom fel y ffrwythom yn y tîr.
23Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Beersebah.
24A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, myfi [ydyw] Duw Abraham dy dâd, nac ofna, canys byddaf gyd a thi, ac mi a’th fendithiaf, ac a luosogaf dy hâd er mwyn Abraham fyng-wâs.
25Ac efe a adailadodd yno allor, ac a alwodd ar enw’r Arglwydd, ac yno y gosododd efe ei babell, a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
26Yna y daeth Abimelec atto ef o Gerar, ac Ahuzah ei gyfell, a Phicol tywysog ei lû.
27Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, pa ham y daethoch chwi attaf fi? gan i chwi fyng-hasau, a’m hanfon oddi wrthych?
28Yna y dywedasant gan weled ni a welsom mai’r Arglwydd sydd gyd a thi, a dywedasom, bydded yn awr gyngrair rhyngom ni [sef] rhyngom ni a thi: a ni a wnawn gyfāmod a thi.
29Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom a thi, a megis, y gwnaethom ddaioni yn unic a thi, ac a’th anfonasom mewn heddwch, ti yn awr [wyt] fendigedic yr Arglwydd.
30Ac efe a wnaeth iddynt wledd, a hwynt a fwyttasant, ac a yfasant.
31Yna y codasant yn foreu, a hwynt a dyngasant bôb vn iw gilydd, ac Isaac ai gollyngodd hwynt a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.
32Y dydd hwnnw y darfu i weision Isaac ddyfod a mynegu iddo ef o achos y pydew yr hwn a gloddiasent, a dywedasant wrtho, cawsom ddwfr.
33Ac efe ai galwodd ef Sebah, am hynny henw y ddinas [yw] Beersebah hyd y dydd hwn.
34Ac yr oedd Esau yn fâb deugein-mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Iudith ferch Beeri’r Hethiad, a Basemah ferch Elon yr Hethiad.
35Ac hwynt oeddynt chwerwder yspryd i Isaac, ac i Rebecca.
Селектирано:
Genesis 26: BWMG1588
Нагласи
Сподели
Копирај
Дали сакаш да ги зачуваш Нагласувањата на сите твои уреди? Пријави се или најави се
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.