YouVersion လိုဂို
ရွာရန္ အိုင္ကြန္

Mathew 2

2
Ymweliad y Doethion
1Ac wedi geni’r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o’r dwyrain i Jerwsalem, 2gan ddywedyd, ‘Pa le y mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? Canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli ef.’ 3Ond pan glywodd Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Jerwsalem gydag ef. 4Ac wedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist. 5A hwy a ddywedasant wrtho, ‘Ym Methlehem Jwdea, canys felly y mae’n ysgrifenedig trwy’r proffwyd:
6“A thithau, Bethlehem, tir Jwda,
nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda;
canys ohonot ti y daw Tywysog,
yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.”’#Micha 5:2
7Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a’u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren. 8Ac wedi eu danfon hwy i Fethlehem, efe a ddywedodd, ‘Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a’i addoli ef.’
9Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o’u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan. 10A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. 11A phan ddaethant i’r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam, a hwy a syrthiasant i lawr ac a’i haddolasant ef. Ac wedi agoryd eu trysorau, hwy a offrymasant iddo anrhegion: aur, a thus, a myrr. 12Ac wedi eu rhybuddio hwy trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i’w gwlad ar hyd ffordd arall.
Ffoi i’r Aifft
13Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, ‘Cyfod, cymer y mab bychan a’i fam, a ffo i’r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti; canys ceisio a wna Herod y mab bychan i’w ddifetha ef.’ 14Ac yntau pan gyfododd, a gymerth y mab bychan a’i fam o hyd nos, ac a giliodd i’r Aifft, 15ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, ‘O’r Aifft y gelwais fy mab.’#Hosea 11:1
16Yna Herod, pan weles ei dwyllo gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â’r doethion. 17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd gan Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd:
18‘Llef a glywyd yn Rama,
galar ac wylofain ac ochain mawr,
Rachel yn wylo am ei phlant;
ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.’#Jeremeia 31:15
Dychwelyd i Nasareth
19Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft, 20gan ddywedyd, ‘Cyfod, a chymer y mab bychan a’i fam, a dos i dir Israel; canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuont feirw.’ 21Ac wedi ei gyfodi, efe a gymerth y mab bychan a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel. 22Eithr pan glywodd efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea. 23A phan ddaeth, efe a drigodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwydi, ‘Gelwir ef yn Nasaread.’

လက္ရွိေရြးခ်ယ္ထားမွု

Mathew 2: BWMTND

အေရာင္မွတ္ခ်က္

မၽွေဝရန္

ကူးယူ

None

မိမိစက္ကိရိယာအားလုံးတြင္ မိမိအေရာင္ခ်ယ္ေသာအရာမ်ားကို သိမ္းဆည္းထားလိုပါသလား။ စာရင္းသြင္းပါ (သို႔) အေကာင့္ဝင္လိုက္ပါ