Pan ddaeth Iesu nôl i Gapernaum ymhen rhai dyddiau, aeth yr hanes ar led ei fod mewn tŷ gerllaw. Daeth cynifer o bobl yno fel nad oedd lle i neb fynd i mewn; (roedd Iesu'n sôn wrthyn nhw am y Newyddion Da). Daeth pedwar ato yn cario dyn wedi ei barlysu, ond oherwydd maint y dyrfa, roedden nhw'n methu â dod yn agos ato. Felly, aethon nhw ati i agor to'r tŷ yn union uwchben lle roedd Iesu. Wedi torri trwodd, gollyngon nhw'r claf i lawr ar ei fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw dwedodd wrth y claf, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.” Roedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno yn meddwl am y pethau a welson ac a glywson nhw: “Pam mae hwn yn siarad fel hyn? Mae e'n cablu. Duw yn unig sy'n gallu maddau pechodau.” Deallodd Iesu eu meddyliau ar unwaith, a gofynnodd, “Pam ydych chi'n meddwl pethau fel hyn? Be sy hawsaf, ai dweud wrth y claf, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, neu ddweud, ‘Cod, cymer dy fatras a cherdda’? Ond er mwyn i chi wybod fod gan Fab y Dyn hawl i faddau pechodau ar y ddaear,” — dwedodd wrth y claf — “rydw i'n dweud wrthyt ti, cod, cymer dy fatras a dos adref.” Cododd y dyn, cymerodd ei fatras, ac aeth oddi wrthyn nhw, gan adael pawb yn synnu a gogoneddu Duw a dweud, “Welson ni erioed y fath beth o'r blaen.”